xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4SAFONAU

PENNOD 7YR HAWL I HERIO

54Herio dyletswyddau dyfodol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a

(b)os yw'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i P—

(i)cydymffurfio â safon, neu

(ii)cydymffurfio â safon mewn modd penodol

oddi ar ddiwrnod gosod yn y dyfodol.

(2)Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Os yw'r dyfarniad hwnnw'n cael ei wneud cyn y diwrnod gosod, rhaid i'r Comisiynydd wrth wneud y dyfarniad ystyried yr amgylchiadau fel y disgwylir iddynt fod ar y diwrnod gosod.

(4)Rhaid i gais o dan yr adran hon gael ei wneud cyn y diwrnod gosod.

(5)Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “diwrnod gosod” yr ystyr sydd iddo yn adran 46.

55Herio dyletswyddau presennol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a

(b)os yw'r hysbysiad eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i P—

(i)cydymffurfio â safon, neu

(ii)cydymffurfio â safon mewn modd penodol.

(2)Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Ond caiff y Comisiynydd wrthod derbyn cais o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau P—

(a)oddi ar y diwrnod y'i gwnaed yn ofynnol am y tro cyntaf i P gydymffurfio â'r safon, neu i P gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, neu

(b)os yw'r Comisiynydd wedi dyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar gais blaenorol o dan yr adran hon, ers i'r Comisiynydd ddyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar y cais hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw'r cwestiwn y mae cais o dan yr adran hon yn ymwneud ag ef.

56Ceisiadau i'r Comisiynydd

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gais o dan adran 54 neu 55 yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig.

(3)Rhaid i'r cais gael ei wneud ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Comisiynydd (os yw'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei wneud ar ffurf benodol).

(4)Rhaid i'r cais nodi'r rhesymau pam y mae P o'r farn bod y gofyniad i gydymffurfio â'r safon, neu i gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

57Dyfarnu ar gais

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)i unrhyw gais o dan adran 54, a

(b)i unrhyw gais o dan adran 55 nad yw'r Comisiynydd yn gwrthod ei dderbyn.

(2)Mater i P yw dangos bod y gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu ar y cais cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cais gael ei wneud.

(4)Wrth ddyfarnu ar y cais—

(a)rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â P, a

(b)caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yng nghanlyniad y cais ym marn y Comisiynydd.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P o'r dyfarniad ar y cais.

(6)Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur, rhaid iddo wneud un o'r canlynol—

(a)dirymu'r hysbysiad cydymffurfio;

(b)dirymu'r hysbysiad cydymffurfio a rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd;

(c)amrywio'r hysbysiad cydymffurfio presennol.

(7)Os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd neu'n amrywio'r hysbysiad cydymffurfio presennol—

(a)nid yw adran 45(3) yn gymwys, a

(b)nid yw adrannau 46(3) a 47 yn gymwys i'r graddau y mae'r Comisiynydd a P yn cytuno ar yr hysbysiad newydd, neu ar yr amrywiad i'r hysbysiad cydymffurfio presennol.

58Yr hawl i apelio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn hysbysu P o dan adran 57 o ddyfarniad nad yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â'r safon mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Caiff P apelio i'r Tribiwnlys yn gofyn i'r Tribiwnlys ddyfarnu a yw'r gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbyswyd P gan y Comisiynydd o dan adran 57.

(4)Ond caiff y Tribiwnlys, ar gais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(5)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i ddyfarniad ar apêl a wneir o dan yr adran hon.

(6)Os yw'r Tribiwnlys yn dyfarnu bod y gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur, bydd is-adrannau (6) a (7) o adran 57 yn gymwys fel pe bai'r Comisiynydd wedi gwneud y dyfarniad hwnnw.

(7)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).

59Apelau o'r Tribiwnlys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran 58.

(2)Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.

(3)Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—

(a)caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a

(b)os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—

(i)anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu

(ii)ail-wneud y penderfyniad.

(4)Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y canlynol, ond heb fod wedi eu cyfyngu iddynt—

(a)cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du;

(b)cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.

(5)Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a

(b)gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.

(6)Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o'i ddyfarniad ar yr apêl o dan adran 58.

(7)Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(8)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

60Gohirio gosod dyletswydd

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cais o dan adran 54 am i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(2)Ni fydd y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu am i P gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw'n gymwys oni fydd neu hyd oni fydd—

(a)y Comisiynydd wedi dyfarnu a yw'r gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio, a

(b)hawliau P i apelio wedi eu disbyddu.

(3)At y diben hwnnw, bydd hawliau P wedi eu disbyddu—

(a)os bydd y cyfnod a grybwyllir yn adran 58(3) ar gyfer gwneud apêl i'r Tribiwnlys wedi dod i ben heb fod apêl wedi ei gwneud, neu

(b)os bydd apêl o dan adran 58 wedi ei gwneud a'i dyfarnu ac, o ran apêl bellach—

(i)na ellir gwneud un, neu

(ii)na ellir gwneud un heb ganiatâd y Tribiwnlys neu ganiatâd llys.