Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Dirymu hysbysiadau cydymffurfioLL+C

50Dirymu hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd ddirymu unrhyw hysbysiad cydymffurfio.

(2)Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys mewn achos pan fo'r Comisiynydd—

(a)yn dirymu hysbysiad cydymffurfio a roddwyd i berson (yr “hen hysbysiad”), a

(b)ar yr un pryd yn rhoi i'r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio (yr “hysbysiad newydd”).

(3)Dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad newydd yn wahanol i'r hen hysbysiad y mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran rhoi'r hysbysiad newydd.

(4)Mae adran 48 yn gymwys o ran rhoi hysbysiad newydd yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 50 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 50 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)