xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG

Y Comisiynydd

2Comisiynydd y Gymraeg

(1)Bydd yna Gomisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).

(2)Rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Comisiynydd.

(3)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â'r Comisiynydd.

(4)Am ddarpariaeth ynglŷn ag uniondeb cymeriad y Comisiynydd, gweler Pennod 1 o Ran 8.

Dyletswydd gyffredinol

3Prif nod y Comisiynydd

(1)Prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.

(2)Mae'r camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu cymryd wrth arfer swyddogaethau yn unol ag is-adran (1) yn cynnwys gweithio tuag at gynyddu'r canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)—

(a)defnyddio'r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau, a

(b)cyfleoedd eraill i bersonau ddefnyddio'r Gymraeg.

(3)Wrth arfer swyddogaethau'n unol ag is-adran (1), rhaid i'r Comisiynydd roi sylw—

(a)i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru,

(b)i'r dyletswyddau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd wedi eu gosod (neu a all gael eu gosod) drwy gyfraith, a'r hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny,

(c)i'r egwyddor na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, a

(d)i'r egwyddor y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Swyddogaethau

4Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef—

(a)er mwyn hybu defnyddio'r Gymraeg,

(b)er mwyn hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu

(c)er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(2)Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r pethau canlynol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—

(a)hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg;

(b)annog arferion gorau o ran defnyddio'r Gymraeg gan bersonau sy'n delio â phersonau eraill, neu sy'n darparu gwasanaethau i bersonau eraill;

(c)cadw digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy'n ymwneud â'r Gymraeg o dan arolygiaeth;

(d)llunio a chyhoeddi adroddiadau;

(e)gwneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i'w wneud;

(f)gwneud gweithgareddau addysgol neu gomisiynu eraill i'w gwneud;

(g)rhoi cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i unrhyw berson;

(h)gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru;

(i)cyflwyno sylwadau i unrhyw berson;

(j)rhoi cyngor i unrhyw berson.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn gwneud argymhelliad ysgrifenedig neu'n cyflwyno sylw ysgrifenedig, neu'n rhoi cyngor ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r argymhelliad, y sylw neu i'r cyngor wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi.

(4)Mae pŵer y Comisiynydd o dan is-adran (2)(g) i roi cymorth ariannol yn ddarostyngedig i adran 11(4).

(5)Caniateir arfer pwerau'r Comisiynydd o dan is-adran (2)(h) i (j) i wneud argymhellion neu gyflwyno sylwadau neu i roi cyngor i berson (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) p'un a wnaeth y person hwnnw gais i'r Comisiynydd arfer y pwerau ai peidio.

(6)Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth a roddir gan yr adran hon.

5Cynhyrchu adroddiadau 5-mlynedd

(1)Rhaid i'r Comisiynydd, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, lunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw.

(2)Yn y Mesur hwn, cyfeirir at adroddiad o'r fath fel “adroddiad 5-mlynedd”.

(3)Os yr adroddiad cyntaf o'i fath i gael ei lunio ar ôl cyfrifiad yw adroddiad 5-mlynedd, rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—

(a)adroddiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Gymraeg;

(b)asesiad o oblygiadau'r canlyniadau hynny i sefyllfa'r Gymraeg.

(4)Nid yw is-adran (3) yn cyfyngu ar y materion y caiff y Comisiynydd eu cynnwys mewn unrhyw adroddiad 5-mlynedd.

(5)Yn yr adran hon—

6Adroddiadau 5-mlynedd: atodol

(1)Wrth baratoi pob adroddiad 5-mlynedd—

(a)rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori, a

(b)caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn ei dyb ef.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef ddod i ben.

(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)archwilio pob adroddiad 5-mlynedd a gyflwynir iddynt, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

7Ymholiadau

(1)Caiff y Comisiynydd gynnal ymholiad i unrhyw fater sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (5).

(3)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad mewn achos—

(a)lle y caiff y Comisiynydd, neu lle y mae'n rhaid iddo, gynnal ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4, neu

(b)lle y mae'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan Ran 5 (nad yw'n ei derfynu).

(4)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r methiant, gan un neu ragor o bersonau penodol, i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor.

(5)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r ymyrraeth, gan un neu ragor o bersonau penodol, â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg (ond gweler Rhan 6 am bŵer i ymchwilio i ymyrraeth benodol â'r rhyddid hwnnw).

(6)Nid yw is-adran (4) neu (5) yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ymddygiad un neu ragor o bersonau penodol pan fydd yn cynnal ymchwiliad—

(a)i fethiant i gydymffurfio â gofynion perthnasol, neu

(b)i ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg.

(7)Caiff y Comisiynydd—

(a)terfynu, neu

(b)atal,

ymholiad, neu unrhyw agwedd ar ymholiad.

(8)Os bydd y Comisiynydd yn ystod ymholiad yn dechrau amau y gall person fod wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor—

(a)wrth iddo barhau â'r ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y bo'n bosibl, osgoi ystyried ymhellach a yw'r person wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion ai peidio,

(b)caiff y Comisiynydd gychwyn ymchwiliad i'r cwestiwn hwnnw o dan Ran 5, ac

(c)caiff y Comisiynydd ddefnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymholiad at ddibenion yr ymchwiliad.

(9)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth atodol ynglŷn ag ymholiadau.

(10)Yn yr adran hon mae i gyfeiriad at fethiant i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor yr un ystyr ag yn Rhan 5.

8Adolygiad barnwrol ac achosion cyfreithiol eraill

(1)Caiff y Comisiynydd gychwyn achos cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, neu ymyrryd mewn achos o'r fath, os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr achos yn un sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.

(2)O ran is-adran (1)—

(a)nid yw'n creu sail i achos, a

(b)mae yn ddarostyngedig i unrhyw derfyn neu gyfyngiad a osodir yn rhinwedd deddfiad neu yn unol ag ymarferiad llys.

(3)Yn yr adran hon, mae'r ymadrodd “achos cyfreithiol” yn cynnwys achosion gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny.

9Cymorth cyfreithiol

(1)Caiff y Comisiynydd ddarparu cymorth i unigolyn os yw'r person hwnnw yn barti, neu os gall y person hwnnw ddod yn barti, i achos cyfreithiol gwirioneddol neu achos cyfreithiol posibl yng Nghymru a Lloegr sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.

(2)Nid yw'r adran hon yn effeithio ar unrhyw gyfyngiad a osodir mewn cysylltiad â chynrychiolaeth—

(a)yn rhinwedd deddfiad, neu

(b)yn unol ag ymarferiad llys neu dribiwnlys.

(3)Y Comisiynydd sydd i ddyfarnu, at ddibenion yr adran hon, a oes achos cyfreithiol posibl sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.

(4)Yn yr adran hon—

10Cymorth cyfreithiol: costau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi cynorthwyo unigolyn o dan adran 9 mewn perthynas ag achos, a

(b)os bydd yr unigolyn hwnnw'n ennill yr hawl i gael rhywfaint neu'r cyfan o'i gostau yn yr achos (boed yn rhinwedd dyfarniad neu yn rhinwedd cytundeb).

(2)O ran treuliau'r Comisiynydd wrth ddarparu'r cymorth—

(a)cânt eu codi ar symiau a delir i'r unigolyn ar ffurf costau, a

(b)gellir eu gorfodi fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.

(3)Mae gofyniad i dalu arian i'r Comisiynydd o dan is-adran (2) yn dod islaw gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 11(4)(f) o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (adennill costau mewn achosion a gyllidir).

(4)At ddibenion is-adran (2), mae treuliau'r Comisiynydd i'w cyfrifo'n unol â darpariaeth a wneir (os o gwbl) gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw drwy reoliadau.

(5)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (4) ddarparu, ymhlith pethau eraill, ar gyfer dyrannu gwariant a dynnir gan y Comisiynydd—

(a)yn rhannol at un diben ac yn rhannol at ddiben arall, neu

(b)at ddibenion cyffredinol.

11Pwerau

(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau.

(2)Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—

(a)rhoi grantiau a benthyciadau a rhoi gwarantau;

(b)codi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;

(c)talu trydydd partïon am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;

(d)derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall;

(e)caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawl.

(3)Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).

(4)Rhaid i'r Comisiynydd beidio—

(a)â rhoi grant neu fenthyciad,

(b)â rhoi gwarant, neu

(c)â chaffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,

ac eithrio gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan adran 9.

(6)Mae pŵer y Comisiynydd i godi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau yn gyfyngedig i godi'r symiau sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd i adennill y gost wirioneddol neu amcangyfrif o'r gost a dynnir gan y Comisiynydd wrth roi'r cyngor hwnnw neu wrth ddarparu'r gwasanaethau hynny.

12Staff

(1)O ran y Comisiynydd—

(a)rhaid iddo benodi person yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Dirprwy Gomisiynydd”), a

(b)caiff benodi staff arall sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at staff y Comisiynydd yn gyfeiriadau at y Dirprwy Gomisiynydd a staff arall.

(3)Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau o staff y Comisiynydd.

(4)Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau o staff y Comisiynydd.

(5)Caiff y Comisiynydd dalu—

(a)pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.

(6)Rhaid i'r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer—

(a)nifer y staff y caniateir eu penodi,

(b)telerau ac amodau gwasanaeth y staff, ac

(c)taliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5).

(7)Rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Dirprwy Gomisiynydd—

(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu

(b)os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru y bydd y Comisiynydd yn methu â phenodi'r Dirprwy Gomisiynydd yn unol â'r adran hon.

(8)Am ddarpariaeth ynglŷn ag uniondeb cymeriad y Dirprwy Gomisiynydd gweler Pennod 1 o Ran 8.

13Arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan staff

(1)Caiff y Comisiynydd ddirprwyo unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Comisiynydd i aelod o staff y Comisiynydd.

(2)Mae swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—

(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu

(b)os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru nad yw'r Comisiynydd am unrhyw reswm yn gallu arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

(3)Os oes un o swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan aelod o staff y Comisiynydd yn unol ag is-adran (1) neu (2) caiff yr aelod staff, wrth arfer y swyddogaeth, ddelio ag unrhyw eiddo neu hawliau sydd wedi eu breinio yn y Comisiynydd fel pe byddent wedi eu breinio yn yr aelod staff.

14Y weithdrefn gwyno

(1)Rhaid i'r Comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion ynglŷn â gweithredoedd neu anweithiau'n ymwneud ag arfer swyddogaethau'r Comisiynydd (“y weithdrefn gwyno”).

(2)Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)ym mha fodd y gellir gwneud cwyn;

(b)y person y gellir cwyno wrtho;

(c)y cyfnod a ganiateir ar gyfer dechrau a gorffen ystyried cwyn; a

(d)y camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.

(3)Caiff y Comisiynydd ddiwygio'r weithdrefn gwyno.

(4)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o'r weithdrefn gwyno ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o'r weithdrefn gwyno ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r weithdrefn gwyno yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y weithdrefn.

15Y sêl a dilysrwydd dogfennau

(1)Caniateir i'r Comisiynydd gael sêl.

(2)Mae dogfen—

(a)yr honnir ei bod wedi ei chyflawni'n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu

(b)yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd,

i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i'r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.

16Pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Comisiynydd.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Comisiynydd mewn perthynas â'r materion canlynol—

(a)rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson o dan Bennod 6 o Ran 4 (gan gynnwys cynnwys hysbysiad cydymffurfio sydd i'w roi i berson);

(b)Rhan 5 (gorfodi safonau);

(c)Rhan 6 (rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg).

(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

17Ymgynghori

Os bydd y Comisiynydd, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth, yn ymgynghori —

(a)â'r Panel Cynghori, neu

(b)ag unrhyw berson arall yn unol â'r Mesur hwn,

rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r ymgynghoriad wrth arfer y swyddogaeth.

Adroddiadau blynyddol

18Adroddiadau blynyddol

(1)Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob un o flynyddoedd ariannol y Comisiynydd (“adroddiad blynyddol”).

(2)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y materion a ganlyn—

(a)crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd;

(b)adolygiad o faterion sy'n berthnasol i'r Gymraeg;

(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd;

(d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol;

(e)crynodeb o'r cwynion a wnaed yn unol â'r weithdrefn a sefydlwyd o dan adran 14.

(3)Caiff adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae'n briodol eu cynnwys yn yr adroddiad yn nhyb y Comisiynydd.

(4)Am ddarpariaeth ynghylch blwyddyn ariannol y Comisiynydd, gweler paragraff 15 o Atodlen 1.

19Adroddiadau blynyddol: atodol

(1)Wrth baratoi pob adroddiad blynyddol, caiff y Comisiynydd ymgynghori—

(a)â'r Panel Cynghori, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol sy'n dilyn y flwyddyn ariannol y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad blynyddol, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)archwilio pob adroddiad blynyddol a gyflwynir iddynt, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gweithio gydag ombwdsmyn eraill, comisiynwyr eraill etc

20Gweithio ar y cyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd y gallai pwnc ymchwiliad penodol i orfodi safonau (“ymchwiliad y Comisiynydd”) hefyd fod yn destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(2)Os yw'r Comisiynydd o'r farn fod hynny'n briodol, rhaid iddo—

(a)hysbysu'r Ombwdsmon ynglŷn ag ymchwiliad y Comisiynydd (gan gynnwys cynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a

(b)ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd, caiff y Comisiynydd a'r Ombwdsmon wneud unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r canlynol—

(a)cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'r ymchwiliad;

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd;

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r ymchwiliad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—

(a)darparu i'r adran hon fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson arall fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â, at ddibenion, neu o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan baragraff (a).

(5)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (4) yn cynnwys y canlynol, ond nid yw wedi ei chyfyngu i hynny—

(a)darpariaeth yn galluogi'r person arall i weithio, neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r person arall weithio, ar y cyd â'r Comisiynydd; a

(b)diwygiadau i unrhyw ddeddfiad.

(6)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(7)Yn yr adran hon—

21Gweithio'n gyfochrog ag ombwdsmyn, comisiynwyr etc

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod pwnc ymchwiliad i orfodi safonau (“ymchwiliad y Comisiynydd”) yn bwnc sy'n ymwneud â mater a allai fod yn destun ymchwiliad gan ombwdsmon penodol, neu sy'n codi mater felly (“y mater cysylltiedig”).

(2)Os yw'r Comisiynydd o'r farn bod hynny'n briodol, rhaid iddo hysbysu'r ombwdsmon ynglŷn â'r mater cysylltiedig.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd, os yw o'r farn bod hynny'n briodol—

(a)hysbysu'r ombwdsmon ynglŷn â'r ymchwiliad (gan gynnwys ynglŷn â chynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a

(b)ymgynghori â'r ombwdsmon mewn perthynas â'r ymchwiliad.

(4)Os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, a'r ombwdsmon yn ymchwilio i'r mater cysylltiedig, cânt wneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(a)cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'u gwahanol ymchwiliadau;

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd;

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'u gwahanol ymchwiliadau neu â'u hymchwiliad ar y cyd.

(5)Os na fydd y Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd, os yw o'r farn bod hynny'n briodol—

(a)rhoi i'r person sydd am ddwyn yr achos wybodaeth ynglŷn â sut i gyfeirio'r mater cysylltiedig at yr ombwdsmon, a

(b)rhoi'r wybodaeth honno i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr achos.

(6)Yn yr adran hon—

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r diffiniad o “ombwdsmon” yn is-adran (6)—

(a)drwy ychwanegu person;

(b)drwy hepgor person;

(c)drwy newid disgrifiad o berson.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth arall sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â, at ddibenion, neu o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (7), gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig—

(a)i ddarpariaeth sy'n galluogi'r person arall i weithio gyda'r Comisiynydd, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, a

(b)i ddiwygiadau i unrhyw ddeddfiad.

(9)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (7), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(10)Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau ynghylch Comisiynwyr ac Ombwdsmyn eraill yn gweithio ar y cyd ac yn gweithio'n gyfochrog â Chomisiynydd y Gymraeg.

Datgelu gwybodaeth

22Y pŵer i ddatgelu gwybodaeth

(1)Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth y mae'r Comisiynydd wedi ei chael wrth arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd onid awdurdodir y datgeliad gan is-adran (2).

(2)Caiff y Comisiynydd ddatgelu'r wybodaeth—

(a)at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd;

(b)at ddibenion achos am dramgwydd o dyngu anudon yr honnir i'r tramgwydd gael ei gyflawni yn ystod ymchwiliad i orfodi safonau;

(c)at ddibenion ymholiad gyda golwg ar gychwyn achos fel a grybwyllir ym mharagraff (b);

(d)at ddibenion dyroddi tystysgrif o dan adran 107 (rhwystro a dirmygu);

(e)os yw'r wybodaeth i'r perwyl bod person yn debygol o fod yn fygythiad i iechyd neu ddiogelwch un neu ragor o bersonau a bod y datgeliad yn ddatgeliad i berson sydd ym marn y Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r wybodaeth iddo er budd y cyhoedd;

(f)os gwybodaeth o'r math a grybwyllir yn is-adran (3) yw'r wybodaeth, ac os gwneir y datgeliad i'r Comisiynydd Gwybodaeth;

(g)os gwneir y datgeliad i berson a ganiatawyd, a bod y Comisiynydd yn fodlon bod amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni;

(h)os cafwyd yr wybodaeth gan y Comisiynydd dros 70 o flynyddoedd cyn dyddiad y datgelu, ac os datgeliad ydyw i berson sydd ym marn y Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r wybodaeth iddo er budd y cyhoedd.

(3)Gwybodaeth yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(f) yr ymddengys i'r Comisiynydd ei bod yn ymwneud—

(a)â mater y gallai'r Comisiynydd Gwybodaeth arfer pŵer mewn perthynas ag ef ac a roddir mewn deddfiad a grybwyllir yn is-adran (4); neu

(b)â chyflawni tramgwydd a grybwyllir yn is-adran (5).

(4)Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) yw—

(a)Rhan 5 o Ddeddf Diogelu Data 1998 (gorfodi);

(b)adran 48 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (argymhellion arfer); ac

(c)Rhan 4 o'r Ddeddf honno (gorfodi).

(5)Y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(b) yw'r rhai—

(a)o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Diogelu Data 1998 ac eithrio paragraff 12 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno (rhwystro gweithredu gwarant); neu

(b)o dan adran 77 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y tramgwydd o altro etc cofnodion gyda'r bwriad o atal datgelu).

(6)At ddibenion is-adran (2)(g), mae amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni os yw'r datgeliad—

(a)yn briodol at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r person a ganiatawyd gan y person hwnnw, a

(b)er budd y cyhoedd.

(7)Wrth ddyfarnu at ddibenion yr adran hon a yw datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd, rhaid i'r Comisiynydd ystyried buddiannau—

(a)unrhyw berson y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef; a

(b)unrhyw bersonau eraill sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(8)Nid yw'r adran hon yn effeithio ar gymhwyso Deddf Diogelu Data 1998 i'r Comisiynydd.

(9)Yn yr adran hon—

(10)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn ddiwygio'r diffiniad o “person a ganiatawyd” yn is-adran (9)—

(a)drwy ychwanegu person;

(b)drwy hepgor person;

(c)drwy newid disgrifiad o berson.

(11)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (10), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person o dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.