RHAN 1STATWS SWYDDOGOL Y GYMRAEG
I11Statws swyddogol y Gymraeg
1
Mae statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.
2
Heb ragfarnu egwyddor gyffredinol is-adran (1), rhoddir effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg drwy gyfrwng deddfiadau ynghylch y canlynol—
a
dyletswyddau ar gyrff i ddefnyddio'r Gymraeg, a'r hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny, sy'n galluogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn ymwneud y cyrff hynny â hwy (megis darparu gwasanaethau gan y cyrff hynny);
b
peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;
c
dilysrwydd defnyddio'r Gymraeg;
d
hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;
e
rhyddid personau sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i wneud hynny gyda'i gilydd;
f
creu swydd Comisiynydd y Gymraeg; ac
g
materion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
3
Mae'r deddfiadau hynny'n cynnwys deddfiadau sy'n gwneud y canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)—
a
ei gwneud yn ofynnol i'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal yn nhrafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
b
rhoi hawl i siarad Cymraeg mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru;
c
rhoi statws cyfartal i destunau Cymraeg a Saesneg—
i
Mesurau a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a
ii
is-ddeddfwriaeth;
d
gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i fabwysiadu strategaeth sy'n nodi sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;
e
creu safonau ymddygiad sy'n ymwneud â defnyddio'r Gymraeg, neu â pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, mewn cysylltiad—
i
â chyflenwi gwasanaethau,
ii
â llunio polisi, a
iii
ag arfer swyddogaethau neu gynnal busnesau neu ymgymeriadau eraill;
f
creu safonau ymddygiad o ran hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;
g
creu safonau ymddygiad ar gyfer cadw cofnodion mewn cysylltiad â'r Gymraeg;
h
gosod dyletswydd i gydymffurfio â'r safonau ymddygiad hynny sy'n cael eu creu, a chreu rhwymedïau am fethiannau i gydymffurfio â hwy; ac
i
creu swydd Comisiynydd y Gymraeg a chanddi swyddogaethau sy'n cynnwys—
i
hybu defnyddio'r Gymraeg,
ii
hwyluso defnyddio'r Gymraeg,
iii
gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg,
iv
cynnal ymholiadau i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiynydd, a
v
ymchwilio i ymyrraeth â'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg.
4
Nid yw'r Mesur hwn yn effeithio ar statws y Saesneg yng Nghymru.