Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

20Gorchmynion a rheoliadau: gweithdrefnauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys–

(a)i orchymyn o dan adran 21(1);

(b)i orchmynion a rheoliadau y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 3(4) neu reoliadau o dan adran 4, 5(1)(g), 6, 9, [F19A] neu 14 (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar eu pennau eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill) oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

F2(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 20 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)