19Gorchmynion a rheoliadauLL+C
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer–
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol ar achos, ardaloedd gwahanol, personau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o berson neu ddibenion gwahanol;
(b)i beri i ddarpariaeth wahanol fod yn gymwys ar adegau gwahanol;
(c)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
(d)i wneud darpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F1(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1A. 19(3)(4) wedi ei hepgor (11.9.2019) yn rhinwedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (anaw 4), a. 44(1)(e), Atod. 2 para. 3(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)