Cynlluniau rheoli gwastraff safle

13Tramgwyddau a chosbau

1

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau–

a

ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan adran 12;

b

ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;

c

ar gyfer rhyddhau o atebolrwydd am dramgwydd o dan baragraff (a) drwy dalu cosb benodedig i awdurdod gorfodi o dan adran 12;

d

ynghylch y ffyrdd y caniateir i daliadau a wneir o dan baragraff (c) gael eu defnyddio gan awdurdodau gorfodi sy'n arfer swyddogaethau o dan adran 12.

2

Ni chaniateir i'r rheoliadau greu tramgwyddau–

a

y gellir eu cosbi â chyfnod yn y carchar, neu

b

y gellir eu cosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy sy'n fwy na £50,000.

3

Ni chaniateir i'r rheoliadau greu tramgwyddau o fethu â chydymffurfio â darpariaeth a wneir o dan adran 12(2)(e) y gellir eu cosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy sy'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.