Tirlenwi

I19Rheoliadau sy'n gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safle tirlenwi yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â'i wahardd neu ei reoleiddio.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)–

a

diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ac sy'n ymwneud â dull gweithredu safle tirlenwi;

b

darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;

c

darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;

d

darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau'r awdurdodau hynny.

3

Yn is-adran (1), mae i “safle tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 am dirlenwi gwastraff F2, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU.

I210Sancsiynau sifil mewn cysylltiad â gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

1

Mae'r adran hon yn gymwys pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 9(1) wedi ei arfer neu'n cael ei arfer yn y fath fodd ag i greu tramgwydd.

2

Caiff rheoliadau o dan adran 9(1) wneud, mewn perthynas ag awdurdod gorfodi, ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (“RESA 2008”) fel pe byddai, at ddibenion Rhan 3 o'r Ddeddf honno–

a

yr awdurdod gorfodi yn rheoleiddiwr, a

b

y tramgwydd yn dramgwydd perthnasol mewn perthynas â'r rheoleiddiwr hwnnw.

3

Ond wrth eu cymhwyso i dramgwyddau a grëwyd gan reoliadau o dan adran 9(1)–

a

nid yw adrannau 39(4) a 42(6) o RESA 2008 yn gymwys, a

b

mae adran 49(1) wedi ei haddasu fel bod y cyfeiriad at “£20,000” i'w ddarllen fel cyfeiriad at “level 5 on the standard scale”.

4

Mae adrannau 63 i 69 o RESA 2008 yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan reoliadau o dan is-adran (2), neu yn rhinwedd y rheoliadau hynny, fel y maent yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan Ran 3 o RESA 2008 neu yn rhinwedd y Rhan honno.

5

At ddibenion is-adran (4), mae'r cyfeiriadau at “regulator” yn adrannau 63 i 69 o RESA 2008 i'w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod gorfodi.

6

Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod gorfodi” yw person sydd â swyddogaeth orfodi mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd drwy reoliadau o dan adran 9(1).

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 10 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)

I311Ymgynghori

1

Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 9, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–

a

F1Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

b

pob awdurdod lleol;

c

unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n agored i fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y rheoliadau ac y mae Gweinidogion Cymru'n barnu eu bod yn briodol;

d

unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol.

2

At ddibenion is-adran (1), mae ymgynghoriad sydd wedi ei wneud cyn pasio'r Mesur hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar ôl ei basio.