Targedau gwastraff

3Targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio

1

Pennir y targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio yn is-adrannau (2) a (3).

2

Rhaid i awdurdod lleol sicrhau yr adenillir, drwy gyfrwng unrhyw un o'r gweithrediadau a bennir yn is-adran (5), o leiaf y maint targed o'i wastraff bwrdeistrefol–

a

bob blwyddyn ariannol darged, a

b

bob blwyddyn ariannol ddilynol tan y flwyddyn ariannol darged nesaf.

3

Yn y tabl canlynol–

a

mae colofn 1 yn pennu'r maint targed ar gyfer blwyddyn ariannol darged (a'r blynyddoedd ariannol sy'n dod o fewn is-adran (2)(b)), a

b

mae colofn 2 yn pennu'r flwyddyn ariannol darged y mae'r maint targed yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 yn gymwys iddi.

TABL

Maint targed

Blwyddyn ariannol darged

52%

2012/13

58%

2015/16

64%

2019/20

70%

2024/25

4

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl hwn drwy orchymyn.

5

Y gweithrediadau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (2) yw–

a

ailgylchu;

b

paratoi i ailddefnyddio;

c

compostio (gan gynnwys unrhyw ffurf arall ar drawsnewid drwy brosesau biolegol).

6

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ganfod a yw gwastraff yn cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, neu ei gompostio at ddibenion y targedau o dan yr adran hon.

7

Mae awdurdod lleol nad yw'n cyrraedd targed ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio yn agored i gosb sydd i'w thalu i Weinidogion Cymru.

8

At ddibenion yr adran hon, gwastraff trefol awdurdod lleol o flwyddyn ariannol darged yw maint cyfan pob un o'r canlynol yn ôl pwysau–

a

yr holl wastraff a gasglwyd yn y flwyddyn honno gan awdurdod lleol o dan adran 45 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

b

yr holl wastraff a ollyngwyd yn y flwyddyn honno mewn mannau a ddarparwyd gan awdurdod lleol o dan is-adrannau (1)(b) a (3) o adran 51 o'r Ddeddf honno;

c

unrhyw wastraff arall a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

9

Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw cyfnod o 12 mis sy'n diweddu ar 31 Mawrth.

4Rheoliadau i osod targedau gwastraff

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau–

a

pennu targedau gwastraff sydd i'w cyrraedd gan awdurdod lleol wrth arfer ei swyddogaethau;

b

pennu dangosyddion y gellir cyfeirio atynt i fesur i ba raddau y mae awdurdod lleol yn bodloni'r targedau o dan baragraff (a);

c

gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i dalu cosb i Weinidogion Cymru os na chyrhaeddir targed o dan baragraff (a).

2

At ddibenion is-adran (1)(a), mae “targedau gwastraff” yn dargedau sy'n ymwneud ag atal, lleihau, casglu, rheoli, trin neu waredu gwastraff.

5Monitro ac archwilio cydymffurfedd â thargedau

1

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau–

a

ynghylch sut y mae cydymffurfedd ag unrhyw darged perthnasol i'w asesu;

b

ynghylch trefniadau ar gyfer monitro ac archwilio cydymffurfedd ag unrhyw darged perthnasol;

c

sy'n rhoi pwerau mynediad a phwerau arolygu mewn cysylltiad â'r monitro a'r archwilio hwnnw ar gyfer personau a awdurdodir gan Weinidogion Cymru;

d

sy'n ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw gan awdurdod lleol mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;

e

sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu gan awdurdod lleol i bersonau penodedig ar ffurf benodedig neu mewn dull penodedig mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;

f

sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei chyhoeddi mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;

g

sy'n gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i dalu cosb os yw'n methu â chydymffurfio â gofyniad mewn rheoliadau o dan unrhyw un neu unrhyw rai o baragraffau (b) i (f).

2

Yn yr adran hon, “targedau perthnasol” yw–

a

targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio o dan adran 3;

b

unrhyw dargedau gwastraff o dan adran 4(1)(a).

6Rheoliadau am gosbau

1

Mae'r adran hon yn gymwys i gosbau o dan adran 3(7), adran 4(1)(c) ac adran 5(1)(g).

2

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau–

a

pennu symiau cosbau neu reolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny;

b

gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae taliadau o ran cosbau yn ddyledus;

c

gwneud darpariaeth ar gyfer llog pan fo taliadau o ran cosbau yn ddyledus ond heb eu gwneud;

d

gwneud darpariaeth ar gyfer adennill neu wrth-hawlio, a sicrhau, symiau, o ran cosbau a llog, sydd heb eu talu;

e

gwneud darpariaeth ynghylch hepgor cosbau.

7Canllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 3 i 6, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau o roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

8Ymgynghori

1

Cyn gwneud gorchymyn neu reoliadau o dan adran 3 neu reoliadau o dan adrannau 4, 5 neu 6, neu rhoi canllawiau o dan adran 7, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–

a

Asiantaeth yr Amgylchedd;

b

pob awdurdod lleol;

c

unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.

2

At ddibenion is-adran (1), mae ymgynghoriad sydd wedi ei wneud cyn pasio'r Mesur hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar ôl ei basio.