xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Mae asesiad o dan y Rhan hon yn ddadansoddiad o iechyd meddwl oedolyn sy'n dynodi–
(a)y gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo;
(b)y gwasanaethau gofal cymunedol, nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo; ac
(c)y gwasanaethau tai neu'r gwasanaethau llesiant (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I2A. 25 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(n)