23Asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol mewn perthynas ag oedolyn–
(a)yn dechrau ar y dyddiad pan gafodd yr oedolyn ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (o fewn ystyr adran 22(2)); a
(b)yn gorffen pan fo'r cyfnod o amser a bennir mewn rheoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru wedi dod i ben.
(2)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol hefyd yn dod i ben, cyn i'r cyfnod o amser y cyfeirir ati yn is-adran (1)(b) ddod i ben, os bydd achlysur a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)
I2A. 23 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(l)