2Cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleolLL+C
(1)Rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar gynllun–
(a)sy'n dynodi'r driniaeth sydd i fod ar gael ar gyfer yr ardal honno at ddibenion y Rhan hon (“triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol”); a
(b)i sicrhau darpariaeth ar gyfer yr ardal honno o wasanaethau, gan gynnwys triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol, a ddisgrifir yn adran 5 (“gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”).
(2)Os cytunir ar gynllun, rhaid i'r partneriaid sicrhau ei fod yn cael ei gofnodi'n ysgrifenedig.
(3)Rhaid i gynllun ddynodi i ba raddau y mae pob un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol.
(4)Caiff cynllun ddarparu–
(a)bod un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol;
(b)bod asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â'r holl unigolion a ddisgrifir yn adran 8(1) neu â disgrifiadau neilltuol ohonynt;
(c)mae asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i'w cynnal mewn cysylltiad â chategorïau neilltuol o unigolyn na fyddai ganddynt fel arall hawl i asesiad.
(5)Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth o dan is-adran (4)(b), rhaid iddo hefyd ddarparu i staff o ddisgrifiadau neilltuol sy'n gweithio ar wasanaethau iechyd meddwl eilaidd allu atgyfeirio unigolyn y cyfeirir ato yn yr is-adran honno am asesiad iechyd meddwl sylfaenol.
(6)Caiff y partneriaid wneud newidiadau i gynllun (gan gynnwys cynllun a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4 a chynllun y gwnaed newidiadau iddo eisoes) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.
(7)Os gwneir newidiadau i gynllun o dan is-adran (6), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I2A. 2 mewn grym ar 8.5.2012 gan O.S. 2011/3046, ergl. 4(b) (ynghyd ag ergl. 5)
