RHAN 1GWASANAETHAU CYMORTH IECHYD MEDDWL SYLFAENOL LLEOL
Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol
2Cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol
(1)
Rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar gynllun–
(a)
sy'n dynodi'r driniaeth sydd i fod ar gael ar gyfer yr ardal honno at ddibenion y Rhan hon (“triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol”); a
(b)
i sicrhau darpariaeth ar gyfer yr ardal honno o wasanaethau, gan gynnwys triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol, a ddisgrifir yn adran 5 (“gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”).
(2)
Os cytunir ar gynllun, rhaid i'r partneriaid sicrhau ei fod yn cael ei gofnodi'n ysgrifenedig.
(3)
Rhaid i gynllun ddynodi i ba raddau y mae pob un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol.
(4)
Caiff cynllun ddarparu–
(a)
bod un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol;
(b)
bod asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â'r holl unigolion a ddisgrifir yn adran 8(1) neu â disgrifiadau neilltuol ohonynt;
(c)
mae asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i'w cynnal mewn cysylltiad â chategorïau neilltuol o unigolyn na fyddai ganddynt fel arall hawl i asesiad.
(5)
Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth o dan is-adran (4)(b), rhaid iddo hefyd ddarparu i staff o ddisgrifiadau neilltuol sy'n gweithio ar wasanaethau iechyd meddwl eilaidd allu atgyfeirio unigolyn y cyfeirir ato yn yr is-adran honno am asesiad iechyd meddwl sylfaenol.
(6)
Caiff y partneriaid wneud newidiadau i gynllun (gan gynnwys cynllun a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4 a chynllun y gwnaed newidiadau iddo eisoes) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.
(7)
Os gwneir newidiadau i gynllun o dan is-adran (6), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.