I17Terfynu aelodaeth o'r Bwrdd
Mae'r Cadeirydd neu unrhyw aelod arall o'r Bwrdd yn peidio â dal swydd—
a
pan ddaw'r cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer i ben,
b
os bydd y person hwnnw'n ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gomisiwn y Cynulliad,
c
os daw'r person hwnnw'n anghymwys i fod yn aelod o'r Bwrdd, neu
d
os bydd y Cynulliad yn penderfynu felly drwy gynnig a gynigir ar ran Comisiwn y Cynulliad gan aelod o Gomisiwn y Cynulliad, ar yr amod, os caiff y penderfyniad ei basio ar bleidlais, na fydd nifer y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw o blaid y penderfyniad yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw.