19Darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbedLL+C
(1)Nid yw'r ffaith bod adran 16 yn dod i rym yn effeithio ar unrhyw benderfyniad neu gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan ddarpariaethau'r canlynol—
(a)adrannau 20, 24 neu 53 o'r Ddeddf, neu
(b)adrannau 16, 18 neu 34A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).
(2)Mae unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan benderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath yn parhau mewn grym fel pe bai wedi'i gwneud gan y Bwrdd o dan adrannau 20, 24 neu 53 (yn ôl fel y digwydd) o'r Ddeddf fel y'i diwygir gan y Mesur hwn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriadau at y [F1Senedd] neu at Gomisiwn y [F1Senedd] mewn penderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath fel cyfeiriadau at y Bwrdd, i'r graddau bod angen gwneud hynny er mwyn rhoi effaith i'r is-adran hon.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Measure wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 4(12)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf