(1)Yn ddarostyngedig i is-adran (2), mae cyfeiriadau yn yr adran hon at dymor [F1Senedd] yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir pôl mewn etholiad cyffredinol cyffredin i'r [F1Senedd] ac sy'n diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir pôl yn yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf i'r [F1Senedd] .
(2)Os bydd—
(a)etholiad cyffredinol anghyffredin i'r [F1Senedd] yn cael ei gynnal, a
(b)bod adran 5(5) o'r Ddeddf yn gymwys,
wedyn, at ddibenion yr adran hon, mae tymor y [F1Senedd] yn diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol anghyffredin hwnnw ac mae tymor nesaf y [F1Senedd] yn dechrau ar y diwrnod y cynhelir y pôl hwnnw.
(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4) ni chaiff y Bwrdd wneud mwy nag—
(a)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i [F2Aelodau o’r Senedd]), a
(b)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru),
sydd i fod yn effeithiol yn ystod pob un o dymhorau'r [F1Senedd] .
(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan is-adran (3) beidio â bod yn gymwys.
(5)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (4) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [F1Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(6)Rhaid i Gomisiwn y [F1Senedd] osod gerbron y [F1Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (5) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [F1Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(7)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor [F1Senedd], wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.
(8)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor [F1Senedd], wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.
(9)Rhaid i'r Bwrdd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (7) ac (8) cyn diwedd y tymor [F1Senedd] cyn y tymor [F1Senedd] y maent i fod yn effeithiol mewn perthynas ag ef, ond os yw'n methu â gwneud hynny, rhaid i Gomisiwn y [F1Senedd] —
(a)nes bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud, barhau i wneud taliadau yn unol â'r penderfyniadau a gafodd effaith mewn perthynas â'r tymor blaenorol hwnnw o'r [F1Senedd], a
(b)pan gaiff penderfyniadau o'r fath eu gwneud, addasu unrhyw daliadau dilynol i wneud iawn am unrhyw dandaliadau neu adennill unrhyw ordaliadau, yn ôl fel y digwydd.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Measure wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 4(12)
F2Geiriau yn Measure wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 4(10) (ynghyd ag Atod. 1 para. 4(7)(8))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf