13Arfer swyddogaethau mewn perthynas â chyflogau
(1)
Yn ddarostyngedig i is-adran (2), mae cyfeiriadau yn yr adran hon at dymor F1Senedd yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir pôl mewn etholiad cyffredinol cyffredin i'r F1Senedd ac sy'n diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir pôl yn yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf i'r F1Senedd .
(2)
Os bydd—
(a)
etholiad cyffredinol anghyffredin i'r F1Senedd yn cael ei gynnal, a
(b)
bod adran 5(5) o'r Ddeddf yn gymwys,
(3)
Yn ddarostyngedig i is-adran (4) ni chaiff y Bwrdd wneud mwy nag—
(a)
un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i F2Aelodau o’r Senedd), a
(b)
un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru),
sydd i fod yn effeithiol yn ystod pob un o dymhorau'r F1Senedd .
(4)
Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan is-adran (3) beidio â bod yn gymwys.
(5)
Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (4) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y F1Senedd yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(6)
(7)
Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor F1Senedd, wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.
(8)
Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor F1Senedd, wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.
(9)
Rhaid i'r Bwrdd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (7) ac (8) cyn diwedd y tymor F1Senedd cyn y tymor F1Senedd y maent i fod yn effeithiol mewn perthynas ag ef, ond os yw'n methu â gwneud hynny, rhaid i Gomisiwn y F1Senedd —
(a)
nes bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud, barhau i wneud taliadau yn unol â'r penderfyniadau a gafodd effaith mewn perthynas â'r tymor blaenorol hwnnw o'r F1Senedd, a
(b)
pan gaiff penderfyniadau o'r fath eu gwneud, addasu unrhyw daliadau dilynol i wneud iawn am unrhyw dandaliadau neu adennill unrhyw ordaliadau, yn ôl fel y digwydd.