xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(a gyflwynir gan adran 6(3))
1Rhaid i'r Clerc wneud trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr i'w penodi'n Gadeirydd, ac yn aelodau eraill i'r Bwrdd.
2Caiff y trefniadau hynny—
(a)eu diwygio o dro i dro, a
(b)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer penodiadau gwahanol a phenodiadau a wneir mewn amgylchiadau gwahanol.
3O ran y trefniadau hynny, rhaid i'r Clerc sicrhau—
(a)nad ydynt yn cynnwys cyfraniad gan unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Clerc ei bod yn debyg yr effeithir arno wrth i'r Bwrdd arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, na chan unrhyw berson sy'n gysylltiedig â pherson o'r fath, a
(b)eu bod, yn ddarostyngedig i is-baragraff (a), yn rhoi sylw priodol i'r egwyddor y dylid cael cyfle cyfartal i bawb.
4Rhaid i'r Clerc beidio â rhoi eu heffaith i'r trefniadau mewn perthynas â phenodiad penodol oni bai eu bod wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cynulliad yn gyntaf a'u bod yn parhau i gael eu cyhoeddi tra bo'r broses o ddewis person i'w benodi i'r swydd yn mynd rhagddi.
5Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad benodi'n Gadeirydd, neu'n aelod o'r Bwrdd, yn ôl fel y digwydd, unrhyw berson a ddetholir, yn unol â'r trefniadau hyn, i'w benodi i'r swydd honno.
6Nid yw paragraff 3 yn gymwys os yw'n ymddangos i Gomisiwn y Cynulliad fod y person o dan sylw wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Bwrdd o dan adran 3.