1.Mae’r nodiadau esboniadol hyn yn cyfeirio at Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 a gafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 26 Mai 2010 a’i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar [21 Gorffennaf 2010]. Maent wedi’u paratoi gan y Gwir Anrh. yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, i helpu i ddeall y Mesur. Nid ydynt yn rhan o’r Mesur ac nid ydynt wedi’u hategu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
2.Mae angen i’r nodiadau gael eu darllen ar y cyd â’r Mesur. Nid disgrifiad cynhwysfawr o’r Mesur mohonynt, ac nid felly y’u bwriedir. Felly, os nad yw’n ymddangos bod angen esboniad neu sylw ar adran neu ran o adran, does dim un yn cael ei roi.
3.Nod allweddol y Mesur yw trosglwyddo gwaith penderfynu ar daliadau Aelodau Cynulliad a deiliaid swyddi ychwanegol, rhai presennol a blaenorol, o Gomisiwn y Cynulliad i Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Bwrdd”). Roedd trosglwyddo’r cyfrifoldeb hwn yn ganolog i nifer o’r argymhellion a gafwyd yn adroddiad y Panel Adolygu Annibynnol (“y Panel”) o dan y teitl Yn Gywir i Gymru: Adolygiad annibynnol o’r trefniadau presennol ar gyfer rhoi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad (Gorffennaf 2009). Mae’r adroddiad hwn i’w weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
4.Mae i’r Mesur 20 o adrannau a thair atodlen. Mae adran 1 yn sefydlu’r Bwrdd. Mae adrannau 2, 3 a 12 i 15 yn nodi swyddogaethau’r Bwrdd ac ym mha fodd y mae’n rhaid i’r swyddogaethau hynny gael eu harfer. Mae adrannau 4 i 7 ac Atodlenni 1 a 2 yn ymdrin â phenodi i’r Bwrdd a therfynu aelodaeth ohono. Yn adrannau 8 i 11 darperir ar gyfer materion o natur weinyddol, gan gynnwys telerau ac amodau penodi i’r Bwrdd, y cymorth gweinyddol iddo, amledd y cyfarfodydd a’r gofyniad bod rhaid cynhyrchu adroddiad blynyddol. Mae adran 16 ac Atodlen 3 yn nodi diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“y Ddeddf”) ac mae adran 17 yn diwygio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Yn olaf, yn adrannau 18 i 20 ceir darpariaethau cyffredinol.
5.Mae’r adran hon yn sefydlu’r Bwrdd, sydd i gynnwys Cadeirydd a phedwar aelod arall. Gall cadeirydd dros dro gael ei benodi gan yr aelodau eraill os ceir lle gwag neu os na all y Cadeirydd weithredu, er enghraifft os na all y Cadeirydd fod yn bresennol mewn cyfarfod penodol.
6.Mae’r adran hon hefyd yn nodi’r paramedrau y mae’n rhaid i’r Bwrdd weithredu o’u mewn. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid cael o leiaf dri aelod yn bresennol er mwyn i unrhyw un o gyfarfodydd y Bwrdd gael ei gynnal. Mae is-adran (5) yn datgan bod rhaid i unrhyw benderfyniad a wneir gan y Bwrdd o dan adrannau 20(6), 24(1) neu 53(7) o’r Ddeddf (gweler paragraff 11 isod) gael ei gymeradwyo gan o leiaf dri o’r aelodau. Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i’r Bwrdd gydymffurfio hefyd â’r dyletswyddau a nodir yn adran 2(2) o’r Mesur (gweler paragraff 9 isod). Yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyn, bydd y Bwrdd yn gosod ei weithdrefnau ei hun.
7.Mae is-adran (7) yn darparu na fydd lle gwag ymhlith yr aelodau neu ddiffyg wrth benodi aelod yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion y Bwrdd.
8.Mae is-adran (1) yn sefydlu annibyniaeth y Bwrdd rhag unrhyw ddylanwad gan y Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau.
9.Mae is-adran (2) yn gosod dyletswydd bendant ar y Bwrdd i weithredu mewn modd agored a thryloyw yn gyffredinol. Mae hefyd yn ofynnol i’r Bwrdd roi gwybod i’r cyhoedd am ei weithgareddau drwy roi cyhoeddusrwydd iddynt ar wefan y Cynulliad. Mae is-adran (2) wedi’i hamodi gan is-adran (3) sy’n caniatáu i’r Bwrdd ystyried mater yn breifat pan fo’r Bwrdd o’r farn bod hynny’n briodol. Un enghraifft fyddai wrth gymryd cyngor cyfreithiol neu wrth bennu manylion terfynol penderfyniad drafft.
10.Mae is-adran (4) yn nodi rhestr o ymgynghoreion gan ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd ymgynghori â’r rhai hynny ohonynt y gallai ei benderfyniadau effeithio arnynt, ac eithrio pan fo’r Bwrdd o’r farn bod yna amgylchiadau a fyddai’n gwneud hynny’n amhriodol. Wrth ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad fel hyn, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd roi sylw i’w ddyletswydd i weithredu’n annibynnol o ran cyflawni ei swyddogaethau, yn unol ag is-adran (1).
11.Mae’r adran hon yn darparu mai prif swyddogaethau’r Bwrdd yw’r rhai a roddir iddo gan adrannau 20, 22, 24, 53 a 54 o’r Ddeddf fel y’i diwygiwyd gan y Mesur hwn. Mae adrannau 20 a 22 o’r Ddeddf (fel y’i diwygiwyd) yn rhoi i’r Bwrdd y swyddogaeth o wneud penderfyniadau ynglŷn â chyflogau, lwfansau a phensiynau Aelodau’r Cynulliad. Mae adran 24 (fel y’i diwygiwyd) yn rhoi i’r Bwrdd y swyddogaeth o wneud penderfyniadau ynglŷn â thaliadau i grwpiau gwleidyddol o Aelodau’r Cynulliad. Mae adrannau 53 a 54 (fel y’u diwygiwyd) yn rhoi i’r Bwrdd y swyddogaeth o wneud penderfyniadau ynglŷn â Phrif Weinidog Cymru, Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol.
12.Mae is-adran (2) yn nodi tri amcan y mae’n rhaid i’r Bwrdd geisio’u gwireddu wrth arfer ei swyddogaethau: yn gyntaf, darparu lefel taliadau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad sy’n adlewyrchiad teg o gymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y mae disgwyl iddynt eu cyflawni ac nad yw, ar sail ariannol, yn atal personau y mae ganddynt yr ymrwymiad a’r gallu angenrheidiol rhag ceisio cael eu hethol yn Aelodau o’r Cynulliad; yn ail, darparu adnoddau digonol ar gyfer Aelodau’r Cynulliad i'w galluogi i arfer eu swyddogaethau fel Aelodau o’r Cynulliad ac, yn drydydd, sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn modd priodol ac atebol, gan sicrhau gwerth am arian a thryloywder.
13.Mae is-adran (3) yn gosod dyletswydd ar y Bwrdd i adolygu’n barhaus i ba raddau y mae’r amcanion hyn yn cael eu cyflawni gan benderfyniadau’r Bwrdd. Wrth wneud hynny, rhaid i’r Bwrdd gymryd i ystyriaeth sut mae’r penderfyniadau hynny wedi gweithredu, unrhyw newidiadau yn swyddogaethau Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw newidiadau perthnasol eraill yn yr amgylchiadau.
14.Fe gaiff y Bwrdd ystyried unrhyw fater arall sy’n berthnasol i gyflawni ei swyddogaethau, naill ai o’i ben a’i bastwn ei hun neu ar ôl cael cais ysgrifenedig gan Glerc y Cynulliad.
15.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n cynnwys rhestr o’r personau sydd wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o’r Bwrdd (gweler paragraff 39 isod).
16.Mae’r adran hon yn galluogi’r rhestr o bersonau sydd wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o’r Bwrdd i gael ei diwygio o dro i dro, yng ngoleuni newidiadau yn yr amgylchiadau, heb fod angen Mesur diwygio.
17.Mae angen penderfyniad gan y Cynulliad i ddiwygio Atodlen 1 (drwy ychwanegu neu ddileu swydd neu berson, neu drwy addasu’r disgrifiad o swydd neu berson o’r fath). Pan fydd penderfyniad o’r fath wedi’i basio, mae is-adran (2) yn darparu’r modd deddfwriaethol i roi’r penderfyniad hwnnw ar waith. Mae hyn yn cael ei wneud drwy roi pŵer i’r Cwnsler Cyffredinol i roi ei effaith i benderfyniad y Cynulliad drwy wneud gorchymyn drwy offeryn statudol. Mae’n rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol arfer y pŵer hwnnw cyn gynted â phosibl ar ôl cael ei hysbysu mewn ysgrifen gan y Llywydd fod y penderfyniad wedi’i basio gan y Cynulliad.
18.Comisiwn y Cynulliad sydd i benodi Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd a hynny am gyfnod penodedig o bum mlynedd. Ni chaniateir penodi person yn aelod o’r Bwrdd fwy na dwywaith. Mae hynny’n golygu mai deng mlynedd yw’r cyfnod hiraf y gallai person fod yn aelod. Mae is-adran (3) yn cyflwyno Atodlen 2 (gweler paragraffau 42 i 45 isod).
19.Mae’r adran hon yn darparu bod Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd yn peidio â dal eu swydd: pan ddaw cyfnod eu penodiad i ben; os byddant yn ymddiswyddo; os cânt eu hanghymhwyso (o dan adran 4 ac Atodlen 1); neu os cânt eu diswyddo yn sgil cynnig Cynulliad a gynigir gan un o aelodau Comisiwn y Cynulliad ar ran Comisiwn y Cynulliad. Os ceir pleidlais arno, rhaid i’r cynnig gael ei basio â mwyafrif o ddwy ran o dair yn y Cynulliad.
20.Comisiwn y Cynulliad sydd i bennu o dan ba delerau ac amodau y bydd y Cadeirydd a’r aelodau eraill yn dal eu swyddi. Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad dalu i’r Cadeirydd a’r aelodau eraill unrhyw symiau y mae ganddynt hawl i'w cael o dan y telerau a’r amodau hynny.
21.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad ddarparu ar gyfer y Bwrdd y cymorth gweinyddol y mae’n rhesymol i’r Bwrdd ofyn amdano.
22.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr. Yn ychwanegol, rhaid i’r Bwrdd gyfarfod i ystyried mater penodol os bydd Clerc y Cynulliad yn gwneud cais mewn ysgrifen i’r Bwrdd wneud hynny. Mae adran 13 hefyd yn cynnwys gofynion sy’n effeithio ar amlder ac amser cyfarfodydd y Bwrdd. Heblaw am y cyfyngiadau hyn, mae’r Bwrdd yn rhydd i benderfynu pryd y bydd yn cyfarfod.
23.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar y Bwrdd, cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, i osod adroddiad blynyddol gerbron y Cynulliad. Bydd yr adroddiad blynyddol yn cynnwys holl weithgareddau’r Bwrdd, gan gynnwys sut y mae wedi defnyddio’i adnoddau, yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Bydd yn agored i bwyllgorau perthnasol y Cynulliad ystyried yr adroddiad yn fanwl.
24.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i benderfyniadau’r Bwrdd o dan adrannau 20(6), 24(1) neu 53(7) o’r Ddeddf fod mewn ysgrifen a chael eu cyfleu i Gomisiwn y Cynulliad. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad ymgorffori pob penderfyniad cyfredol mewn un ddogfen a chyhoeddi honno.
25.Mae’r adran hon yn darparu na chaiff y Bwrdd wneud mwy nag un penderfyniad ynglŷn â chyflogau Aelodau’r Cynulliad ac un ynglŷn â chyflogau Gweinidogion Cymru (gan gynnwys Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Weinidogion) a’r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer pob un o dymhorau pedair blynedd y Cynulliad (ond gweler paragraff 28 isod). Er hynny, caniateir i benderfyniad arall ar gyflogau gael ei wneud cyn diwedd tymor os yw’r Bwrdd wedi’i fodloni bod yna amgylchiadau eithriadol sy’n peri ei bod yn deg ac yn rhesymol gwneud hynny. Er enghraifft, gallai “amgylchiadau eithriadol” gynnwys cyfnod o chwyddiant eithriadol o gyflym.
26.Mae’r adran yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd wneud ei benderfyniad ar gyfer tymor Cynulliad o bedair blynedd, os yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, cyn diwedd y tymor cyn y tymor hwnnw (er mwyn iddo ddod i rym o ddechrau’r tymor Cynulliad newydd). Mae is-adrannau (7) ac (8) yn gwneud darpariaeth at achosion lle nad yw hyn yn bosibl. Ni waeth pa bryd y caiff y penderfyniadau hynny eu gwneud, mae’r is-adrannau hyn yn darparu y byddant yn effeithiol o ddechrau’r tymor y maent i fod yn effeithiol ynddo.
27.Os na fydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd y tymor cyn y tymor y mae’r penderfyniad i fod yn effeithiol ar ei gyfer, mae is-adran (9) yn darparu y bydd penderfyniadau blaenorol yn parhau’n effeithiol nes cael eu disodli ac y bydd addasiadau’n cael eu gwneud wedyn naill ai i wneud iawn am unrhyw dandaliad, neu i adennill unrhyw ordaliad, yn ôl fel y digwydd.
28.Mae’r adran hefyd yn gwneud darpariaeth fanwl sy’n diffinio ystyr “tymor” Cynulliad. Fel rheol, y cyfnod o bedair blynedd rhwng etholiadau cyffredinol y Cynulliad yw tymor Cynulliad. Er hynny, mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer etholiadau cyffredinol anghyffredin cyn diwedd y cyfnod hwnnw, o dan amgylchiadau penodol. Oni bai bod etholiad o’r fath yn cael ei gynnal lai na 6 mis o ddiwedd y tymor arferol fe fyddai etholiad cyffredinol cyffredin yn dal i gael ei gynnal ar ddiwedd y pedair blynedd gwreiddiol. Mae’r adran felly yn egluro na fyddai angen ail set o benderfyniadau ar gyflogau, mewn achos o’r fath, ar gyfer y cyfnod rhwng yr etholiad cyffredinol anghyffredin a’r etholiad cyffredinol cyffredin nesaf.
29.Os bydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniad sy’n darparu ar gyfer ad-dalu costau a ysgwyddwyd gan Aelodau Cynulliad, neu gan grwpiau o Aelodau Cynulliad, wrth gyflogi staff, mae’r adran hon yn darparu na chaiff y Bwrdd wedyn addasu’r penderfyniad hwnnw yn ystod y flwyddyn ariannol y daw’r penderfyniad i rym ynddi am y tro cyntaf. Gan hynny, yr egwyddor gyffredinol yw mai dim ond un set o reolau ynglŷn â chost cyflogi staff a fydd yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Er hynny, mae is-adran (3) yn darparu y caiff y Bwrdd wyro oddi wrth hyn os yw wedi’i fodloni bod yna amgylchiadau eithriadol sy’n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol gwneud hynny. Mae’r ddarpariaeth hon yn atgynhyrchu ar gyfer staff a gyflogir gan Aelodau Cynulliad neu gan grwpiau o Aelodau Cynulliad y ddarpariaeth honno sy’n gymwys o dan adran 13(4) ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, Gweinidogion Cymru (gan gynnwys Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Weinidogion) a’r Cwnsler Cyffredinol (gweler paragraff 25 uchod).
30.Mae’r adran hon yn sicrhau bod y Bwrdd yn cymryd i ystyriaeth yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Panel (gweler yn benodol argymhellion 11, 14 a 56) gan eu cymhwyso, oni bai bod rheswm da dros beidio, y tro cyntaf y bydd yn gwneud penderfyniad y mae unrhyw argymhelliad o’r fath yn berthnasol iddo. Os bydd y Bwrdd, wrth wneud penderfyniad o’r fath, yn penderfynu yn wahanol i argymhelliad perthnasol, rhaid iddo ddatgan ei resymau dros y gwahaniaeth a chyfleu’r datganiad hwnnw mewn ysgrifen i Gomisiwn y Cynulliad. Caiff y datganiad ei osod gerbron y Cynulliad.
31.Mewn penderfyniadau dilynol, fydd dim gofyn i’r Bwrdd roi sylw i argymhellion y Panel yn y penderfyniadau hynny, ond mae’n cael rhoi sylw iddynt os yw’n dymuno. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith y bydd yr argymhellion manwl a wnaed yn adroddiad y Panel yn cael eu disodli’n fwyfwy, wrth i amser fynd heibio, gan farn y Bwrdd ei hun a fydd yn cael ei hymgorffori yn ei benderfyniadau.
32.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 3 (gweler paragraff 46 isod).
33.Mae’r adran hon yn dod â’r Bwrdd o fewn y dosbarth o awdurdodau cyhoeddus sy’n dod o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
34.Mae’r adran hon yn diffinio’r termau sy’n cael eu defnyddio yn y Mesur. Bydd i dermau sy’n cael eu defnyddio yn y Mesur ac sydd hefyd wedi’u defnyddio yn y Ddeddf yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
35.Diben yr adran hon yw sicrhau y bydd penderfyniadau a wnaed gan y Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad a chyfarwyddiadau a wnaed gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac sydd mewn grym ar hyn o bryd yn parhau mewn grym nes iddynt gael eu diwygio neu eu disodli gan y Bwrdd. Yn ychwanegol, bydd yn galluogi cyfeiriadau at y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y penderfyniadau a’r cyfarwyddiadau hynny i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Bwrdd (lle bo angen gwneud hynny er mwyn rhoi ei heffaith i’r parhad hwn) heb fod angen diwygio pob cyfeiriad yn unigol.
36.Mae’r adran hon yn nodi’r trefniadau ar gyfer cychwyn y Mesur.
37.Mae adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 12, 17, 18 ac 20 yn ymwneud â materion fel sefydlu’r Bwrdd ac aelodaeth y Bwrdd. Daw’r rhain i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor.
38.Mae gweddill darpariaethau’r Mesur yn ymwneud â rhoi swyddogaethau i'r Bwrdd a sut mae’r rheiny i gael eu harfer. Mae’r darpariaethau hyn yn dod i rym, ar y diwrnod ar ôl i hysbysiad, sy’n cadarnhau bod y penodiadau wedi’u gwneud, gael ei osod gerbron y Cynulliad gan Glerc y Cynulliad.
39.Er mwyn lleihau’r risg y bydd yna wrthdaro rhwng buddiannau, mae adran 4 a’r atodlen hon yn darparu bod personau penodol wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o’r Bwrdd,(1) sef Aelodau’r Cynulliad neu ymgeiswyr i’w hethol yn Aelodau o’r Cynulliad, aelodau o staff y Cynulliad neu Lywodraeth Cynulliad Cymru a phersonau sy’n cael eu cyflogi gan Aelodau o’r Cynulliad neu gan grŵp o Aelodau’r Cynulliad er mwyn helpu Aelodau o’r Cynulliad i gyflawni swyddogaethau Aelod o’r Cynulliad (er enghraifft staff cymorth sy’n cael eu cyflogi gan Aelodau o’r Cynulliad). Mae’r Cwnsler Cyffredinol (os nad yw’r person hwnnw wedi’i anghymhwyso eisoes fel Aelod o’r Cynulliad), Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’u hanghymhwyso hefyd. Mae’r rhestr o’r personau sydd wedi’u hanghymhwyso hefyd yn cynnwys Aelodau o Senedd Ewrop, Tŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Yn ychwanegol, chaiff person ddim bod yn aelod o’r Bwrdd os yw’n aelod o Bwyllgor Llywodraethu Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad, yn Gynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y Cynulliad, yn gyn aelod o’r naill neu’r llall o’r Paneli a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu tâl a lwfansau Aelodau’r Cynulliad, neu’n Gyfarwyddwr Anweithredol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
40.At ddibenion y Mesur hwn, mae person yn dod yn ymgeisydd i’w ethol yn Aelod o’r Cynulliad ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw’n ymgeisydd neu y caiff ei enwebu’n ymgeisydd, p’un bynnag fydd gyntaf.
41.O dan y Ddeddf, gall lle gwag mewn sedd mewn rhanbarth etholiadol olygu bod person a oedd ar restr plaid ar gyfer y rhanbarth hwnnw yn yr etholiad diwethaf yn llenwi’r lle gwag hwnnw heb etholiad, ac felly mae personau a allai ddod yn Aelodau o’r Cynulliad fel hyn hefyd wedi’u hanghymhwyso.
42.Mae’r atodlen hon yn nodi rhagor o fanylion y trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr i’w penodi’n Gadeirydd ac yn aelodau eraill o’r Bwrdd. Mae paragraff 1 yn ei gwneud yn ofynnol i Glerc y Cynulliad wneud y trefniadau angenrheidiol, ar ran Comisiwn y Cynulliad. Mae paragraff 2 yn egluro y caiff y Clerc, o dro i dro, ddiwygio’r trefniadau hynny.
43.Er mwyn lleihau unrhyw bosibilrwydd y bydd yna wrthdaro rhwng buddiannau, mae paragraff 3 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Clerc sicrhau na chaiff neb y gallai arfer swyddogaethau’r Bwrdd effeithio arno (er enghraifft, Aelodau’r Cynulliad) gymryd rhan yn y broses ddethol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Clerc sicrhau bod y trefniadau’n rhoi sylw i gyfle cyfartal i bawb.
44.Mae paragraff 4 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Clerc gyhoeddi manylion y weithdrefn ddethol, ar wefan y Cynulliad, cyn a thrwy gydol y broses ddethol.
45.Mae paragraffau 5 a 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad benodi pwy bynnag a gaiff ei ddethol drwy’r trefniadau hynny oni bai bod y person sydd wedi’i ddethol yn anghymwys o dan adran 4 ac Atodlen 1.
46.Mae’r atodlen hon yn cynnwys diwygiadau i’r Ddeddf er mwyn gwireddu diben canolog y Mesur hwn, sef trosglwyddo’r rôl mewn penderfynu ar daliadau i Aelodau Cynulliad a deiliaid swyddi ychwanegol presennol a blaenorol o Gomisiwn y Cynulliad i’r Bwrdd.
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am daith y Mesur ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation.htm
Cyflwyno’r Mesur arfaethedig | 9 Tachwedd 2009 |
Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol | 26 Tachwedd 2009 |
10 Rhagfyr 2009 | |
14, 21 a 28 Ionawr 2010 | |
11 a 25 Chwefror 2010 | |
Cyfnod 1 – Dadl yn y cyfarfod llawn ar yr egwyddorion cyffredinol | 24 Mawrth 2010 |
Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau | 21 Ebrill 2010 |
Cyfnod 3 – Y cyfarfod llawn yn ystyried y gwelliannau | 26 Mai 2010 |
Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur arfaethedig yn y cyfarfod llawn | 26 Mai 2010 |
Y Gymeradwyaeth Frenhinol yn y Cyngor | 21 Gorffennaf 2010 |
Mae adran 4 ac Atodlen 1 yn nodi’r personau hynny sydd wedi’u hanghymhwyso gan y gyfraith rhag bod yn aelodau o’r Bwrdd. Ond yn ychwanegol at hynny, bydd y rhai a fydd yn dethol darpar aelodau i’r Bwrdd yn cael cymryd i ystyriaeth, wrth bwyso a mesur a ydynt yn addas, unrhyw gysylltiad ag Aelod o’r Cynulliad (megis perthynas deuluol) a allai arwain at wrthdrawiad buddiannau gwirioneddol neu dybiedig.