7Dirprwyo ac is-gwmnïau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, i unrhyw raddau ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau ag y gwelant yn dda, ddirprwyo unrhyw un neu fwy o'u swyddogaethau o dan y Mesur hwn (nad ydynt yn swyddogaethau sydd wedi eu heithrio) i unrhyw berson.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru gaffael neu sefydlu is-gwmnïau i wneud unrhyw un neu fwy o'u dyletswyddau o dan y Mesur hwn (nad ydynt yn swyddogaethau sydd wedi eu heithrio).
(3)
Mae unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â'r canlynol yn swyddogaeth sydd wedi ei heithrio—
(a)
gwneud rheoliadau neu orchmynion;
(b)
rhoi cyfarwyddiadau.
(4)
Caniateir i ddirprwyad o dan is-adran (1) gael ei amrywio neu ei ddirymu ar unrhyw adeg.
(5)
Ni fydd unrhyw gytundeb neu drefniant o dan yr adran hon a wneir gan Weinidogion Cymru i ddirprwyo swyddogaeth, neu i drefnu bod is-gwmni yn cyflawni swyddogaeth, yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaeth os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus iddynt wneud hynny.