2Amcanion
At ddibenion y Mesur hwn yr amcanion yw—
(a)
cynyddu effeithlonrwydd neu gynhyrchiant yn y diwydiant cig coch;
(b)
gwella marchnata yn y diwydiant;
(c)
gwella neu ddatblygu gwasanaethau y mae'r diwydiant yn eu darparu i'r gymuned neu y gallai eu darparu iddi; a
(d)
gwella'r ffyrdd y mae'r diwydiant yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy drwyddynt.