16CyfarwyddiadauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—
(a)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach; a
(b)rhaid iddo gael ei roi mewn ysgrifen.
(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, gwahanol weithgareddau sy'n ymwneud â'r diwydiant cig coch neu wahanol sectorau o'r diwydiant;
(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
I2A. 16 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)