16Cyfarwyddiadau
(1)
O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—
(a)
caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach; a
(b)
rhaid iddo gael ei roi mewn ysgrifen.
(2)
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, gwahanol weithgareddau sy'n ymwneud â'r diwydiant cig coch neu wahanol sectorau o'r diwydiant;
(b)
i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.