15Diddymu Bwrdd Ardollau Cymru

(1)

Mae Bwrdd Ardollau Cymru wedi'i ddiddymu.

(2)

Wrth ddiddymu'r Bwrdd, mae ei eiddo, ei hawliau a'i atebolrwyddau yn breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(3)

Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddogfen at Fwrdd Ardollau Cymru yn cael effaith, i'r graddau y mae'n angenrheidiol at ddibenion darpariaethau is-adran (2) neu o ganlyniad iddynt, fel pe bai'n gyfeiriad at Weinidogion Cymru.

(4)

Mae Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru 2008 (O.S.2008/420) wedi ei ddirymu.