14DiffiniadauLL+C
Yn y Mesur hwn—
ystyr “allforio” (“export”) yw cludo gwartheg, defaid neu foch allan o'r Deyrnas Unedig;
ystyr “allforiwr” (“exporter”) yw unrhyw berson sy'n allforio gwartheg, defaid neu foch;
ystyr “amcanion” (“objectives”) yw'r amcanion a nodwyd yn adran 2;
ystyr “cigyddwr” (“slaughterer”) yw unrhyw berson sydd â rheolaeth dros ladd-dy;
ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw anifeiliaid buchol, gan gynnwys bison a byfflo;
ystyr “moch” (“pigs”) yw anifeiliaid o deulu'r moch, gan gynnwys baeddod gwyllt a moch fferal eraill;
ystyr “personau sy'n atebol i dalu ardoll” (“persons liable to pay a levy”) yw personau sydd wedi eu dynodi, drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru, yn rhai sy'n atebol i dalu ardoll o dan y Mesur hwn, neu bersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgareddau eilaidd dynodedig o dan y Mesur hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
I2A. 14 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)