9Awdurdod yn disodli penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu

(1)Os yw awdurdod lleol yn barnu'n rhesymol bod un neu ragor o'r amodau yn is-adran (4) wedi eu bodloni, caiff yr awdurdod yn unol â'r adran hon ddisodli penderfyniad a roddwyd o dan adran 7(1), neu o dan yr adran hon, â phenderfyniad newydd.

(2)Mewn achos pan fo rheoliadau o dan adran 4(1)(d) yn gosod dyletswydd ynglŷn â'r gwasanaeth y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef, mae pŵer yr awdurdod o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i adran 4(2).

(3)Ni chaiff penderfyniad o dan is-adran (1) fod yn wahanol i'r penderfyniad y mae yn ei ddisodli ond i'r graddau y mae'r awdurdod yn barnu eu bod yn briodol yng ngoleuni'r amod neu amodau yn is-adran (4) sydd wedi eu bodloni ym marn yr awdurdod.

(4)Dyma'r amodau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—

(a)bu newid yn incwm neu gyfalaf y person sy'n destun y penderfyniad;

(b)bu newid yng nghost darparu'r gwasanaeth y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys newid o ganlyniad i newid yn y lefel neu i'r graddau y darperir y gwasanaeth iddi neu iddynt);

(c)bu i'r awdurdod newid ei bolisi ynghylch arfer ei bŵer i godi ffi o dan adran 1;

(d)bu newid arall mewn amgylchiadau sy'n dod o fewn disgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

(e)gwnaed camgymeriad pan wnaed y penderfyniad.