8Effaith penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gallu i dalu
(1)
Wrth osod ffioedd o dan adran 1(1), rhaid i awdurdod lleol roi effaith i unrhyw benderfyniad a wneir o dan adran 7(1) neu 9(1).
(2)
Yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (3), mae penderfyniad i gael effaith o'r dyddiad sy'n rhesymol ym marn yr awdurdod lleol dan sylw (a gall y dyddiad hwnnw fod yn ddyddiad cyn y dyddiad pan wnaed y penderfyniad).
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau o ba ddyddiad y mae penderfyniad i gael effaith (gan gynnwys darparu bod penderfyniad i gael effaith o ddyddiad cyn y dyddiad pan y'i gwnaed).
(4)
Pan fo penderfyniad yn disodli penderfyniad sydd eisoes yn bod, bydd y penderfyniad sydd eisoes yn bod yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd y penderfyniad newydd yn effeithiol.
(5)
At ddibenion is-adran (4), mae penderfyniad yn disodli penderfyniad sydd eisoes yn bod os yw'n ymwneud â'r un person a'r un gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano â'r penderfyniad hwnnw.