7Penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu
(1)Pan fo awdurdod lleol wedi asesu modd person o dan adran 5(1), rhaid i'r awdurdod, yng ngoleuni'r asesiad hwnnw—
(a)penderfynu a yw'n rhesymol ymarferol i'r person dalu'r ffi safonol am y gwasanaeth a gynigiwyd i'r person neu a ddarperir iddo; a
(b)os yw'r awdurdod yn penderfynu nad yw'n rhesymol ymarferol i'r person dalu'r ffi safonol, penderfynu'r swm (os oes un) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person ei dalu am y gwasanaeth hwnnw.
(2)Rhaid i awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw'n gyfyngedig i hynny) sy'n—
(a)pennu achosion pan na fo'n rhesymol ymarferol i bersonau ac iddynt fodd penodedig, neu ac iddynt fodd sy'n dod o fewn ystod benodedig, dalu am wasanaeth penodol, neu gyfuniad o wasanaethau penodol;
(b)pennu'r uchafswm sy'n rhesymol ymarferol i bersonau ac iddynt fodd penodedig, neu ac iddynt fodd sy'n dod o fewn ystod benodedig, dalu am wasanaeth penodol, neu gyfuniad o wasanaethau penodol;
(c)pennu symiau y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu diystyru wrth asesu modd person;
(d)pennu symiau islaw iddynt y mae'n rhaid peidio â gostwng incwm nac asedau person (ar ôl talu'r ffi sydd i'w gosod).
(4)Yn is-adran (1) ac adran 10 ystyr “ffi safonol” yw'r swm y byddai'n ofynnol i berson ei dalu am wasanaeth pe na bai effaith i benderfyniad o dan y Mesur hwn a oedd yn ymwneud â gallu person i dalu.