6Amodau sy'n arwain at y ddyletswydd i gynnal asesiad modd
1
Mae'r adran hon yn cynnwys yr amodau y cyfeirir atynt yn adran 5(1) (dyletswydd i gynnal asesiad modd).
2
Amod 1 yw bod—
a
gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano yn cael ei gynnig i berson; neu
b
gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano yn cael ei ddarparu i berson.
3
Amod 2 yw bod y person hwnnw yn gofyn am i'r awdurdod a wnaeth y cynnig, neu sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth, gynnal asesiad modd o dan adran 5.
4
Amod 3 yw bod y person yn rhoi i'r awdurdod unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sydd ym meddiant y person, neu o dan reolaeth y person, sy'n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod er mwyn cynnal asesiad modd o dan yr adran honno.
5
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau pwy a gaiff wneud y cais a grybwyllir yn is-adran (3), neu roi'r wybodaeth neu'r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (4), ar ran person y cynigir gwasanaeth iddo neu y darperir gwasanaeth iddo.