Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010

5Dyletswydd i gynnal asesiad modd

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo pob un o'r amodau yn adran 6 wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad o fodd ariannol person sy'n gofyn am yr asesiad hwnnw.

(2)Ond nid yw awdurdod lleol o dan unrhyw ddyletswydd i gynnal asesiad modd o dan is-adran (1)—

(a)mewn achosion a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru; na

(b)os rhyddheir yr awdurdod o'r ddyletswydd honno o dan is-adran (5).

(3)Rhaid cynnal asesiad modd o dan is-adran (1) yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (3) yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw'n gyfyngedig i hynny) sy'n cymhwyso unrhyw gyfundrefn profi modd statudol arall fel y mae iddi effaith o dro i dro, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a bennir yn y rheoliadau.

(5)Oni bai bod rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn darparu i'r gwrthwyneb, nid oes ar awdurdod lleol ddyletswydd i gynnal asesiad modd o dan is-adran (1) os—

(a)oes effaith i benderfyniad a wneir gan yr awdurdod o dan adran 7(1) neu 9(1);

(b)yw'r person sy'n destun y penderfyniad yn gofyn am i'r awdurdod gynnal asesiad modd o dan is-adran (1);

(c)yw'r cais yn ymwneud â gwasanaeth y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef; a

(d)yw'r awdurdod yn barnu yn rhesymol na fu unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau ers gwneud y penderfyniad.