Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010

2Uchafswm y ffioedd

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Wrth benderfynu ffi resymol at ddibenion adran 1(2) am wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, rhaid i awdurdod lleol weithredu yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau ar gyfer neu mewn cysylltiad â rheoli penderfyniadau a chyfyngu arnynt y caiff awdurdod lleol eu gwneud o dan adran 1(2).

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn y rheoliadau yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth—

(a)sy'n pennu swm y mae'n rhaid ei ystyried fel mwyafswm rhesymol y ffi am wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt;

(b)sy'n nodi fformiwla ar gyfer penderfynu'r swm y mae'n rhaid ei ystyried fel mwyafswm rhesymol y ffi am wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt;

(c)sy'n ei gwneud yn ofynnol, mewn achos o wasanaeth penodedig y caniateir codi ffioedd amdano, neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt, i awdurdod lleol bennu ffi drwy gyfeirio at gyfnod penodedig o amser;

(d)o ran ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (c), sy'n pennu'r swm y mae'n rhaid ei ystyried fel mwyafswm rhesymol y ffi;

(e)o ran ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (c), sy'n nodi fformiwla ar gyfer penderfynu'r swm y mae'n rhaid ei ystyried fel mwyafswm rhesymol y ffi.