10Darparu gwybodaeth am ffioedd
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i ddwyn gwybodaeth am y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2) i sylw personau—
(a)sy'n derbyn gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano; neu
(b)a all fod yn derbyn gwasanaeth o'r fath.
(2)Dyma'r materion—
(a)y gwasanaethau y gosodir ffioedd ynglŷn â hwy a'r gwasanaethau na osodir ffioedd ynglŷn â hwy;
(b)y ffioedd safonol a osodir ar gyfer gwahanol fathau o wasanaeth (am ystyr “ffi safonol”, gweler adran 7(4)); ac
(c)gweithrediad adrannau 4 i 9.
(3)Rhaid i'r trefniadau—
(a)darparu ar gyfer rhoi gwybodaeth mewn ystod o fformatau hygyrch (gan gynnwys yn ysgrifenedig) ynghylch y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2) mewn ymateb i gais a wnaed gan berson y cyfeirir ato yn is-adran (1); a
(b)cael eu llunio fel bod unrhyw wybodaeth yn cael ei rhoi'n ddi-dâl.
(4)Os yw awdurdod lleol wedi gosod (neu newid) ffi o dan adran 1(1), rhaid iddo roi i'r person y gosodir y ffi arno ddatganiad ysgrifenedig, ac mewn unrhyw fformat hygyrch arall y mae'r person yn rhesymol yn gofyn amdano, sy'n gwneud yr hyn a ganlyn—
(a)disgrifio'r gwasanaeth, neu'r cyfuniad o wasanaethau, y mae'r ffi'n ymwneud ag ef neu hwy;
(b)nodi'r ffi safonol am y gwasanaeth, neu'r cyfuniad o wasanaethau, o dan sylw (am ystyr “ffi safonol”, gweler adran 7(4));
(c)os nad y ffi safonol yw'r ffi a osodir yn achos y person hwnnw, yn nodi'r ffi a osodir;
(d)esbonio sut y cyfrifwyd y ffi (gan gynnwys manylion o unrhyw asesiad modd o dan adran 5(1) a sut yr oedd hyn yn effeithio ar y cyfrifo);
(e)disgrifio hawliau'r person i herio'r ffi neu gwyno am y ffi neu eglurder mynegiant y datganiad;
(f)cynnwys unrhyw fater arall y mae rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'w cynnwys yn y datganiad.
(5)Rhaid darparu datganiad o dan yr adran hon—
(a)yn ddi-dâl; a
(b)o fewn un diwrnod ar hugain o'r dyddiad y penderfynwyd gosod (neu newid) y ffi.