1Pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal
1
Caiff awdurdod lleol yng Nghymru sy'n darparu, neu'n gwneud trefniadau ar gyfer darparu, gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano osod ffi resymol am y gwasanaeth (ond nid oes raid iddo wneud hynny).
2
Ffi resymol yw'r swm hwnnw y mae'r awdurdod o dan sylw yn penderfynu ei fod yn rhesymol.
3
Ond mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i'r canlynol—
a
adran 2 (uchafswm y ffioedd);
b
adran 3 (personau a gwasanaethau y mae'n rhaid peidio â gosod ffioedd ynglŷn â hwy);
c
adran 8(1) (effaith penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu); a
d
unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003 (p. 5) (darparu gwasanaethau yng Nghymru yn ddi-dâl).
4
Mae gan awdurdod lleol y pŵer i adennill ffi a osodir o dan yr adran hon.
5
Heb ragfarnu is-adran (4) yn gyffredinol, caniateir adennill ffi a osodir o dan yr adran hon yn ddiannod fel dyled sifil.