SYLWEBAETH AR ADRANNAU

Adran 1 –: Pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal

3.Mae is-adrannau 1(1) a (2) yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol yng Nghymru sy'n darparu gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano godi ffi am y gwasanaeth hwnnw am y cyfryw swm ag y mae'n ystyried sy'n rhesymol (i gael disgrifiad o'r gwasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt y mae'r Mesur yn ymwneud â hwy gweler y nodiadau ar adran 13).  Ond mae adran 1(3) yn gwneud darpariaeth i’r pŵer hwn fod yn ddarostyngedig i nifer o ddarpariaethau deddfwriaethol y cyfeirir atynt yn is-adran (3) sef:

4.Mae is-adrannau (4) a (5) yn darparu pŵer i awdurdod lleol adennill ffi am wasanaethau y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddynt ac yn enwedig i’w adennill fel dyled sifil mewn achos llys.

Adran 2 – Uchafswm y ffioedd

5.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2) wrth iddynt ystyried beth yw ffi resymol am wasanaeth y caniateir codi ffi amdano.

6.Mae is-adran (2) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n rheoli'r hyn yw ffi resymol neu'n cyfyngu arni.  Mae is-adran (3) yn rhoi enghreifftiau o'r math o ddarpariaeth y caniateir ei chynnwys mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran hon. Mae'n cynnwys darpariaeth sy'n pennu'r uchafswm y caiff awdurdod lleol ei godi am wasanaeth penodol y caniateir codi ffi amdano neu am unrhyw gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt a darpariaeth sy'n cadarnhau uchafswm ffi fesul awr neu fesul wythnos.

Adran 3 – Personau a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd ynglŷn â hwy

7.Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n eithrio personau neu wasanaethau penodol y caniateir codi ffi amdanynt rhag y gyfundrefn codi ffi. Mae is-adrannau 2(a) a (b) yn rhoi enghreifftiau o'r modd y gellir diffinio categorïau o bersonau sy'n cael eu heithrio; gwneir hyn drwy gyfeirio at eu hoedran neu at dderbyn taliadau, cyfleusterau neu wasanaethau penodedig. Mae is-adran 2(c) yn darparu y caniateir eithrio categorïau o wasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill) y cyfnod o amser pan ddarperir hwy.

Adran 4 – Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd

8.Mae adran 4A(1) yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wahodd defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth i ofyn am asesiad modd pan fydd yn cynnig gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano neu cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol wedi hynny. Mae hefyd yn rhoi rhwymedigaeth ar awdurdod lleol  y darperir gwasanaeth i berson y caniateir codi ffi amdano i roi gwahoddiad yn yr achosion a nodir yn y rheoliadau.

9.Mae is-adran (2) yn gwneud darpariaeth, pan fo’n ofynnol rhoi gwahoddiad, na all awdurdod lleol osod na newid ffi oni bai bod gofynion penodol wedi’u bodloni. Y gofynion yw bod y gwahoddiad wedi’i roi ac, os ymatebwyd iddo yn unol â’r darpariaethau i’w nodi mewn rheoliadau, fod yr awdurdod wedi cynnal asesiad modd ac wedi gwneud penderfyniad ynghylch y gallu i dalu.

10.Mae’r adran hon hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau ffurf a chynnwys gwahoddiadau a’r dull o roi’r gwahoddiadau hynny.

Adran 5 – Dyletswydd i gynnal asesiad modd

11.Mae is-adran (1) yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad ar fodd defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth pan fo’r amodau a nodir yn adran 4C wedi’u bodloni. Mae is-adran (2) yn datgymhwyso’r ddyletswydd hon yn yr achosion a nodir yn y rheoliadau a wnaed o dan yr is-adran honno.  Mae is-adran (5) yn datgymhwyso’r ddyletswydd yn yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (5) oni bai bod rheoliadau a wnaed o dan yr is-adran honno yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb.

12.Mae is-adrannau (3) a (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i lunio rheoliadau ynghylch sut dylid cynnal asesiadau modd.

Adran 6 – Amodau sy’n arwain at y ddyletswydd i gynnal asesiad modd

13.Mae’r adran hon yn nodi’r amodau sy’n arwain at ddyletswydd awdurdod lleol i gynnal asesiad modd, fel y nodir yn adran 5(1). Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth yn y rheoliadau ynghylch pwy gaiff wneud y cais am asesiad modd neu roi unrhyw wybodaeth ariannol angenrheidiol ar ran defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth.

Adran 7 – Penderfyniadau sy’n ymwneud â’r gallu i dalu

14.Mae is-adran (1) yn gymwys pan fo asesiad modd yn cael ei gynnal. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benderfynu, yng ngoleuni’r asesiad, a yw’n rhesymol ymarferol i’r defnyddiwr gwasanaeth dalu’r ffi safonol  Os nad yw, mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol benderfynu pa ffi (os o gwbl) y byddai’n rhesymol ymarferol iddynt ei thalu.

15.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1) yn unol â’r ddarpariaeth a wnaed yn rheoliadau Gweinidogion Cymru.  Mae is-adran (3) yn rhoi rhai enghreifftiau o sut y gellid arfer y pŵer hwn.

16.Mae is-adran (4) yn diffinio’r term ‘ffi safonol’, y cyfeirir ato yn is-adran (1) ac yn adran 10.

Adran 8– Effaith penderfyniadau sy’n ymwneud â’r gallu i dalu

17.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi effaith i unrhyw benderfyniad a wneir o ran gallu defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth i dalu am wasanaeth y caniateir codi ffi amdano.

18.Mae is-adrannau (2) a (3) yn gwneud darpariaeth ynghylch dyddiad gweithredu’r penderfyniadau.

19.Mae is-adrannau (4) a (5) yn ymwneud â dyddiad gweithredu’r penderfyniadau newydd.

Adran 9 – Awdurdod yn disodli penderfyniadau sy’n ymwneud â gallu i dalu

20.Mae is-adran (1) yn darparu y caiff awdurdod lleol ddisodli penderfyniad â phenderfyniad newydd os yw unrhyw un neu ragor o’r amodau a nodir yn is-adran (4) wedi eu bodloni. Mae is-adran (4)(d) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru lunio rheoliadau yn nodi amodau eraill.

21.Mae is-adran (2) yn gwneud darpariaeth, pan fo rhwymedigaeth ar awdurdod lleol i roi gwahoddiad i ofyn am asesiad modd, na all ddisodli penderfyniad sydd eisoes yn bodoli hyd nes i’r gofynion a nodir yn adran (3) gael eu bodloni.

22.Mae is-adran (3) yn sicrhau na chaiff y penderfyniad newydd fod yn wahanol i’r penderfyniad y mae’n ei ddisodli ond i’r graddau y bernir ei fod yn briodol yng ngoleuni’r materion yn is-adran (4) (amodau gwneud penderfyniad newydd).

Adran 10 – Darparu gwybodaeth am ffioedd

23.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i'r rheini sy'n derbyn, neu a gaiff dderbyn, gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano a'r rheini y maent yn penderfynu codi ffi arnynt.

24.Mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddwyn yr wybodaeth ganlynol i sylw personau sy'n derbyn gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano neu a gaiff dderbyn gwasanaeth o’r fath:

25.Mae is-adran (3) yn gwneud darpariaeth bod yn rhaid darparu’r wybodaeth gyffredinol hon mewn ystod o fformatau hygyrch, a hynny’n rhad ac am ddim.

26.Mae is-adrannau (4) a (5) yn ymwneud â gwybodaeth y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei rhoi i bersonau y maent yn penderfynu gosod ffi arnynt. Rhaid darparu'r wybodaeth hon yn ysgrifenedig ac mewn unrhyw fformat hygyrch arall y mae'r person yn rhesymol yn gwneud cais amdani. Rhaid ei darparu yn ddi-dâl, a chyn pen 21 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad penderfynu gosod neu newid ffi.

Adran 11 – Adolygu penderfyniadau ar godi ffioedd

27.Mae'r adran yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â'r trefniadau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud i adolygu penderfyniadau ar godi ffioedd.  Mae is-adran (2) yn rhoi enghreifftiau o'r math o ddarpariaeth y caniateir ei chynnwys mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran hon.  Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â hawl unigolyn i ofyn am adolygiad, y broses y mae'n rhaid i unigolyn ei dilyn i arfer yr hawl honno a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i awdurdod eu dilyn wrth gynnal yr adolygiad. Caniateir gwneud darpariaeth hefyd ynghylch pwy a gaiff ofyn am adolygiad ar ran person arall.

Adran 12 – Taliadau uniongyrchol

28.Mae’r adran hon yn berthnasol  pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i unigolyn o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001. Rhaid darllen yr adran ar y cyd ag adran 57 o Ddeddf 2001 a’r pwerau llunio rheoliadau yn yr adran honno.

29.Mae is-adrannau (2) a (3) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau am daliadau uniongyrchol sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth a wneir, neu y caniateir ei gwneud, o dan adrannau 1-11 o’r Mesur hwn. Mae is-adran (4) yn rhoi enghreifftiau o’r math o ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan reoliadau o’r fath (mae’r enghreifftiau hyn yn cyfateb i’r ddarpariaeth a wneir gan yr adrannau blaenorol). Mae is-adran (5) yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn yr adran.

Adran 13 – Gwasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt

30.Mae'r adran hon yn pennu'r gwasanaethau y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddynt a diffinnir y gwasanaethau hyn fel “gwasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt”. Y gwasanaethau hyn y caniateir codi ffi amdanynt yw'r gwasanaethau hynny a ddarperir o dan y deddfiadau a bennir yn is-adran (2).  Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau lles i bersonau oedrannus a hyglwyf megis gofal cartref, canolfannau gofal dydd, golchi dillad, trafnidiaeth a phrydau bwyd. Cafodd gwasanaethau gofal preswyl eu heithrio o ystod y Gorchymyn galluogi Cymhwysedd Deddfwriaethol ac o'r herwydd cawsant eu heithrio o'r Mesur hwn.

31.Yn ddarostyngedig i gyfyngiadau mater 15.1 ym Maes 15 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae adran 13(3) yn galluogi Gweinidogion Cymru drwy orchymyn i ychwanegu gwasanaeth at adran 13(2) neu ddiwygio neu ddileu’r disgrifiad o wasanaeth a gynhwysir ynddi am y tro. Mae adran 17(7) yn gwneud darpariaeth y bydd gorchymyn o’r fath yn gorfod dilyn y weithdrefn gadarnhaol.

Adran 14 – Diwygio Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983

32.Mae'r adran hon yn diwygio'r ddeddfwriaeth y mae awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn Lloegr ar hyn o bryd yn codi ffi am wasanaethau gofal dibreswyl oddi tani.  Mae'n darparu, ac eithrio o ran gwasanaethau a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 ar ffurf gofal preswyl, y bydd adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 yn gymwys i awdurdod yn Lloegr yn unig.  Ar gyfer awdurdodau lleol yn Nghymru, bydd adran 17 yn parhau i fod yn gymwys o ran gwasanaethau a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 ar ffurf gofal preswyl yn unig.  Yn achos gwasanaethau dibreswyl caiff y drefn godi ffioedd ei llywodraethu gan y Mesur hwn a chan reoliadau sydd i'w gwneud o dan y Mesur.

Adran 15 – Diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970

33.Mae'r adran hon yn diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970.  Mae Deddf 1970 yn gwneud darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys gofyniad bod awdurdodau lleol Cymru wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn cydymffurfio â chanllawiau a chyfarwyddiadau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.  At ddibenion Deddf 1970 swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yw'r swyddogaethau hynny o dan y deddfiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Ddeddf.  Mae adran 15 yn ychwanegu adrannau penodedig o'r Mesur hwn at y rhestr honno o ddeddfiadau yn Atodlen 1 ac wrth wneud hynny mae'n peri bod codi ffioedd am wasanaethau lles awdurdodau lleol yn swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol  at ddibenion Deddf 1970.

Adran 16 – Diwygio Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001

34.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 drwy gynnwys adran 57(7B) newydd i dynnu sylw darllenwyr at fodolaeth y Mesur Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) a’r ddarpariaeth ychwanegol ynddo o ran taliadau uniongyrchol yng Nghymru.

Adran 17 – Gorchmynion a rheoliadau

35.Mae'r adran hon yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynghylch is-ddeddfwriaeth (gorchmynion a rheoliadau) a wneir o dan y Mesur.

36.Mae is-adran (1) yn darparu, pan fydd Gweinidogion Cymru wedi eu galluogi gan y Mesur i wneud gorchmynion neu reoliadau, maent i'w gwneud drwy offerynnau statudol.  Mae hyn yn golygu bod darpariaethau Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys i'r gorchmynion a'r rheoliadau hynny, gan gynnwys gofynion ynghylch eu cyhoeddi. Mae is-adran (2) yn darparu y caiff gorchmynion neu reoliadau a wneir o dan y Mesur wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol a chânt gynnwys darpariaethau cysylltiedig, darpariaethau atodol, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau darfodol, darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed.

37.Mae is-adran (3) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru drwy orchymyn i wneud darpariaethau sydd yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion y Mesur, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Mesur neu er mwyn rhoi effaith iddi.  Mae is-adran (4) yn darparu y caiff gorchymyn o'r fath ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol, Mesur Cynulliad neu is-ddeddfwriaeth. Mae is-adrannau (5) i (7) yn nodi gweithdrefn y Cynulliad y bydd offeryn statudol a wneir o dan y Mesur yn ddarostyngedig iddi. Bydd angen i orchmynion sy'n diwygio Deddfau neu Fesurau gael eu cymeradwyo drwy gael eu pasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yn achos unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 13(3).

Adran 18 – Cychwyn a dehongli

38.Mae is-adran (1) yn diffinio'r term “awdurdod lleol” at ddibenion y Mesur.

39.Mae is-adrannau (2) a (3) yn darparu bod adran 17 i 19 yn dod i rym ddau fis ar ôl i'r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor a bod gweddill y darpariaethau yn cael eu dwyn i rym yn unol â darpariaeth sydd i'w gwneud gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn. Mae is-adran (4) yn gwneud darpariaeth y caiff gorchymyn o dan is-adran (3) wneud darpariaeth i ddarpariaethau’r Mesur ddod i rym ar ddiwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.