Adran 17 – Gorchmynion a rheoliadau
35.Mae'r adran hon yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynghylch is-ddeddfwriaeth (gorchmynion a rheoliadau) a wneir o dan y Mesur.
36.Mae is-adran (1) yn darparu, pan fydd Gweinidogion Cymru wedi eu galluogi gan y Mesur i wneud gorchmynion neu reoliadau, maent i'w gwneud drwy offerynnau statudol. Mae hyn yn golygu bod darpariaethau Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys i'r gorchmynion a'r rheoliadau hynny, gan gynnwys gofynion ynghylch eu cyhoeddi. Mae is-adran (2) yn darparu y caiff gorchmynion neu reoliadau a wneir o dan y Mesur wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol a chânt gynnwys darpariaethau cysylltiedig, darpariaethau atodol, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau darfodol, darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed.
37.Mae is-adran (3) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru drwy orchymyn i wneud darpariaethau sydd yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion y Mesur, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Mesur neu er mwyn rhoi effaith iddi. Mae is-adran (4) yn darparu y caiff gorchymyn o'r fath ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol, Mesur Cynulliad neu is-ddeddfwriaeth. Mae is-adrannau (5) i (7) yn nodi gweithdrefn y Cynulliad y bydd offeryn statudol a wneir o dan y Mesur yn ddarostyngedig iddi. Bydd angen i orchmynion sy'n diwygio Deddfau neu Fesurau gael eu cymeradwyo drwy gael eu pasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yn achos unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 13(3).