RHAN 4AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
75Cychwyn
1
Mae'r darpariaethau canlynol yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—
adran 1;
adran 2 (i'r graddau y mae'n gymwys i Weinidogion Cymru);
adran 3;
adran 74;
yr adran hon;
adran 76.
2
Daw paragraffau 19 i 20 o Atodlen 1 i rym ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
3
Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.