xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i bob bwrdd integredig cymorth i deuluoedd lunio adroddiad blynyddol ar gyfer—
(a)yr awdurdod lleol;
(b)pob Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r timau integredig cymorth i deuluoedd y mae'r bwrdd yn gyfrifol amdanynt;
(c)Gweinidogion Cymru.
(2)Rhaid i'r adroddiad fod ynghylch effeithiolrwydd pob tîm integredig cymorth i deuluoedd y mae'r bwrdd yn ymwneud ag ef a chaiff gynnwys unrhyw beth arall sy'n berthnasol i waith y tîm neu waith y bwrdd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 64 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I2A. 64 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1