RHAN 3TIMAU INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD
Adroddiadau
I1I264Adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd
1
Rhaid i bob bwrdd integredig cymorth i deuluoedd lunio adroddiad blynyddol ar gyfer—
a
yr awdurdod lleol;
b
pob Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r timau integredig cymorth i deuluoedd y mae'r bwrdd yn gyfrifol amdanynt;
c
Gweinidogion Cymru.
2
Rhaid i'r adroddiad fod ynghylch effeithiolrwydd pob tîm integredig cymorth i deuluoedd y mae'r bwrdd yn ymwneud ag ef a chaiff gynnwys unrhyw beth arall sy'n berthnasol i waith y tîm neu waith y bwrdd.