Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

62Swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Amcanion y byrddau integredig cymorth i deuluoedd yw—

(a)sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a wneir gan y timau integredig cymorth i deuluoedd y maent yn ymwneud â hwy;

(b)hybu arferion da gan yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau o ran y swyddogaethau a bennir i'r timau;

(c)sicrhau bod gan fyrddau integredig cymorth i deuluoedd adnoddau digonol i gyflawni eu swyddogaethau;

(d)sicrhau bod yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau integredig cymorth i deuluoedd yn cydweithredu â'r timau integredig cymorth i deuluoedd wrth iddynt gyflawni swyddogaethau'r timau.

(2)Mae bwrdd integredig cymorth i deuluoedd i gael y cyfryw swyddogaethau o ran ei amcanion ag a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 62 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 62 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1

I3A. 62(1) mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2

I4A. 62(1) mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2

I5A. 62(1) mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(f)

I6A. 62(2) mewn grym ar 27.1.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/191, ergl. 2, Atod. 1