Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

61Sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu bwrdd integredig cymorth i deuluoedd ynglŷn â thîm neu dimau a sefydlwyd ar gyfer ei ardal o dan adran 57.

(2)Os bydd dau awdurdod lleol (neu fwy) sy'n gweithredu gyda'i gilydd yn sefydlu tîm neu dimau integredig cymorth i deuluoedd ar gyfer eu dwy ardal (neu bob un o'u hardaloedd), rhaid i'r awdurdodau sefydlu un bwrdd integredig cymorth i deuluoedd.

(3)Rhaid i fwrdd a sefydlir o dan yr adran hon gynnwys pob un o'r canlynol—

(a)cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol;

(b)os nad cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol yw'r cyfarwyddwr arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc (o fewn ystyr adran 27(1)(a) o Ddeddf Plant 2004 (p. 21)), y cyfarwyddwr arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc;

(c)y swyddog arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc (o fewn ystyr adran 27(2)(a) o Ddeddf Plant 2004 (p. 21)) o bob un o'r Byrddau Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o'u hardal yn dod o fewn yr ardal y mae'r tîm yn ei chwmpasu.

(4)Rhaid i fwrdd a sefydlwyd ar gyfer mwy nag un awdurdod lleol gynnwys y personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) o is-adran (3) o bob awdurdod lleol.

(5)Caiff awdurdod lleol benodi aelodau eraill i fwrdd gyda chydsyniad pob Awdurdod Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

(6)Mae aelod a benodir o dan is-adran (5) yn dal ei swydd ac yn ymadael â hi yn unol â thelerau'r penodiad.

(7)Caiff awdurdod lleol dalu taliadau a lwfansau i aelod a benodir o dan is-adran (5).