RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
PENNOD 1DILEU TLODI PLANT
Yr awdurdodau Cymreig
6Yr awdurdodau Cymreig
(1)
At ddibenion y Mesur hwn, mae pob un o'r canlynol yn “awdurdod Cymreig”—
(a)
Gweinidogion Cymru;
(b)
awdurdod lleol;
(c)
Bwrdd Iechyd Lleol;
(d)
Awdurdod tân ac achub yng Nghymru, sef awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(e)
Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)
F1Corff Adnoddau Naturiol Cymru ;
(g)
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
(h)
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(i)
Amgueddfa Genedlaethol Cymru;
(j)
Cyngor Celfyddydau Cymru;
(k)
Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(l)
Cyngor Chwaraeon Cymru.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn —
(a)
diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (1), ac eithrio paragraff (a) a (b);
(b)
ychwanegu paragraffau at yr is-adran honno;
(c)
diwygio neu hepgor y cyfryw baragraffau ychwanegol;
(d)
gwneud unrhyw ddiwygiadau i adran 5 sy'n angenrheidiol neu'n hwylus o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraffau (a) i (c).
(3)
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) i gynnwys person yn is-adran (1) neu i symud person o is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person hwnnw.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu pŵer o dan is-adran (2) mewn modd a fyddai'n cynnwys unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol o fewn is-adran (1)—
(a)
person sydd heb swyddogaethau o natur gyhoeddus;
(b)
person nad yw ei brif swyddogaethau'n ymwneud â maes neu feysydd yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
(c)
tribiwnlys.
(5)
Os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan is-adran (2) mewn modd a fyddai'n cynnwys person o fewn is-adran (1) sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus ac o natur breifat, rhaid iddynt gynnwys y person hwnnw mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny sydd ganddo sydd o natur gyhoeddus yn unig.