(1)Mae'r adran hon yn gymwys o ran hysbysiadau sy'n ofynnol neu a awdurdodwyd eu rhoi i unrhyw berson gan unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—
(a)adran 33;
(b)adran 36.
(2)Gellir rhoi'r hysbysiad i'r person o dan sylw—
(a)drwy ei draddodi i'r person,
(b)drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person, neu
(c)yn ddarostyngedig i is-adran (3), drwy ei drosglwyddo'n electronig.
(3)Os trosglwyddir yr hysbysiad yn electronig, mae i'w drin fel un wedi ei roi ond yn unig os bodlonir gofynion is-adran (4) neu (5).
(4)Os y person y mae'n ofynnol iddo roi'r hysbysiad neu a awdurdodwyd i wneud hynny yw Gweinidogion Cymru—
(a)rhaid bod y person y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd rhoi'r hysbysiad iddo wedi rhoi ar ddeall i Weinidogion Cymru bod y person hwnnw'n barod i dderbyn hysbysiadau a drosglwyddir drwy gyfrwng electronig a'i fod wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw, a
(b)rhaid anfon yr hysbysiad i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.
(5)Os nad Gweinidogion Cymru yw'r person y mae'n ofynnol iddo roi'r hysbysiad neu a awdurdodwyd i wneud hynny, rhaid i'r hysbysiad gael ei drosglwyddo yn y cyfryw fodd ag y caiff Gweinidogion Cymru ei wneud yn ofynnol.
(6)Ceir dangos parodrwydd i dderbyn hysbysiadau a drosglwyddir drwy fodd electronig, a roddir at ddibenion is-adran (4), drwy ddull cyffredinol at ddibenion hysbysiadau y mae'n ofynnol eu rhoi neu yr awdurdodwyd eu rhoi gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon neu ceir cyfyngu hynny i hysbysiadau o ddisgrifiad penodol.
(7)O ran cymryd cam a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c) o adran 36(1) ceir rhoi hysbysiad yr awdurdodwyd ei roi gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (5) neu (7) o'r adran honno ar lafar i berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i dderbyn y cyfryw hysbysiad (yn ogystal â thrwy unrhyw un neu unrhyw rai o'r dulliau a grybwyllir yn is-adran (2)).