RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Diddymu ac atal cofrestriad
31Diddymu cofrestriad
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru ddiddymu cofrestriad person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon os yw'n ymddangos iddynt bod y person bellach wedi'i anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiddymu cofrestriad person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon os yw'n ymddangos iddynt bod unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol yn gymwys—
(a)
bod y gofynion i gofrestru sy'n gymwys o ran cofrestriad y person o dan adran 25 neu 27 wedi peidio â chael eu bodloni neu y byddant yn peidio â chael eu bodloni;
(b)
bod y person wedi methu â chydymffurfio ag amod a osodwyd ar gofrestriad y person hwnnw o dan y Rhan hon;
(c)
bod y person wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd ar y person hwnnw gan reoliadau o dan y Rhan hon;
(d)
bod y person wedi methu â thalu'r ffi a ragnodwyd.
(3)
Os gosodwyd gofyniad i wneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau i unrhyw wasanaethau, cyfarpar neu fangre ar berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, ni cheir diddymu cofrestriad y person hwnnw ar sail unrhyw ddiffyg neu annigonolrwydd yn y gwasanaethau, cyfarpar neu fangre—
(a)
os nad yw'r amser a osodwyd i gydymffurfio â'r gofynion wedi dod i ben, a
(b)
os dangosir bod y diffyg neu'r annigonolrwydd oherwydd na wnaed y newidiadau neu'r ychwanegiadau.
(4)
Rhaid i ddiddymiad o dan yr adran hon fod yn ysgrifenedig.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi amgylchiadau eraill pan geir diddymu cofrestriad person cofrestredig o dan y Rhan hon.