RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Y broses gofrestru a gofynion cofrestru
28Cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau
(1)
Os caiff cais o dan adran 24(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cofrestru'r ceisydd yn y gofrestr gwarchodwyr plant fel gwarchodwr plant, a
(b)
rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan bod y ceisydd wedi'i gofrestru.
(2)
Os caiff cais o dan adran 26(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cofrestru'r ceisydd yn ddarparydd gofal dydd ynglŷn â'r fangre o dan sylw, a
(b)
rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan fod y ceisydd wedi'i gofrestru.
(3)
Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan is-adran (1) neu (2) gynnwys gwybodaeth a ragnodwyd ynghylch materion a ragnodwyd.
(4)
Os oes newid yn yr amgylchiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio tystysgrif gofrestru, rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r person cofrestredig dystysgrif ddiwygiedig.
(5)
Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod tystysgrif gofrestru wedi cael ei cholli neu ei difa, rhaid i Weinidogion Cymru roi copi i'r person cofrestredig, pan fydd y person cofrestredig yn talu'r ffi a ragnodwyd.