Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

19Ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person yn gofalu am blentyn neu blant o dan [F1ddeuddeng] oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr; ac mae “gwarchod plant” i'w ddehongli yn unol â hynny.

(3)Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw'r person yn darparu gofal ar unrhyw adeg i blant o dan [F2ddeuddeng] oed mewn mangre heblaw mangre ddomestig; ac mae “gofal dydd i blant” a “gofal dydd” i'w dehongli yn unol â hynny.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)diwygio is-adran (2) neu (3) i amnewid oedran gwahanol;

(b)darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn gweithredu fel gofalydd plant at ddibenion y Rhan hon;

(c)darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn darparu gofal dydd at ddibenion y Rhan hon.

(5)Caiff yr amgylchiadau a bennir mewn gorchymyn ymwneud ag un neu fwy o'r materion canlynol (ymhlith eraill)—

(a)y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(b)y plentyn neu'r plant y darperir ef ar ei gyfer neu ar eu cyfer;

(c)natur y gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(d)y fangre y darperir ef ynddi;

(e)yr adegau pan ddarperir ef;

(f)y trefniadau y darperir ef oddi tanynt.

(6)Yn yr adran hon ystyr “mangre ddomestig” yw unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 19 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)