RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
PENNOD 3AROLYGU, CANLLAWIAU A CHYFARWYDDIADAU
Arolygu
13Arolygu
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—
(a)
ar gyfer arolygu arfer swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan adrannau 7 i 12;
(b)
ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(2)
Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—
(a)
gan Weinidogion Cymru, neu
(b)
gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wnaed gyda Gweinidogion Cymru.
(3)
Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.
(4)
Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.