xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTIMAU INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD

ByrddauLL+C

61Sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu bwrdd integredig cymorth i deuluoedd ynglŷn â thîm neu dimau a sefydlwyd ar gyfer ei ardal o dan adran 57.

(2)Os bydd dau awdurdod lleol (neu fwy) sy'n gweithredu gyda'i gilydd yn sefydlu tîm neu dimau integredig cymorth i deuluoedd ar gyfer eu dwy ardal (neu bob un o'u hardaloedd), rhaid i'r awdurdodau sefydlu un bwrdd integredig cymorth i deuluoedd.

(3)Rhaid i fwrdd a sefydlir o dan yr adran hon gynnwys pob un o'r canlynol—

(a)cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol;

(b)os nad cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol yw'r cyfarwyddwr arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc (o fewn ystyr adran 27(1)(a) o Ddeddf Plant 2004 (p. 21)), y cyfarwyddwr arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc;

(c)y swyddog arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc (o fewn ystyr adran 27(2)(a) o Ddeddf Plant 2004 (p. 21)) o bob un o'r Byrddau Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o'u hardal yn dod o fewn yr ardal y mae'r tîm yn ei chwmpasu.

(4)Rhaid i fwrdd a sefydlwyd ar gyfer mwy nag un awdurdod lleol gynnwys y personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) o is-adran (3) o bob awdurdod lleol.

(5)Caiff awdurdod lleol benodi aelodau eraill i fwrdd gyda chydsyniad pob Awdurdod Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

(6)Mae aelod a benodir o dan is-adran (5) yn dal ei swydd ac yn ymadael â hi yn unol â thelerau'r penodiad.

(7)Caiff awdurdod lleol dalu taliadau a lwfansau i aelod a benodir o dan is-adran (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 61 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 61 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1

I3A. 61 mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2

62Swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

(1)Amcanion y byrddau integredig cymorth i deuluoedd yw—

(a)sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a wneir gan y timau integredig cymorth i deuluoedd y maent yn ymwneud â hwy;

(b)hybu arferion da gan yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau o ran y swyddogaethau a bennir i'r timau;

(c)sicrhau bod gan fyrddau integredig cymorth i deuluoedd adnoddau digonol i gyflawni eu swyddogaethau;

(d)sicrhau bod yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau integredig cymorth i deuluoedd yn cydweithredu â'r timau integredig cymorth i deuluoedd wrth iddynt gyflawni swyddogaethau'r timau.

(2)Mae bwrdd integredig cymorth i deuluoedd i gael y cyfryw swyddogaethau o ran ei amcanion ag a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 62 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I5A. 62 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1

I6A. 62(1) mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2

I7A. 62(2) mewn grym ar 27.1.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/191, ergl. 2, Atod. 1