xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Cofrestru gwarchod plant

20Cofrestr o warchodwyr plant

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr (“cofrestr o warchodwyr plant”) o bob person sydd wedi'i gofrestru'n warchodwr plant o dan y Rhan hon.

21Dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru

(1)Rhaid i berson beidio â gweithredu'n warchodwr plant yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru'n warchodwr plant gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon.

(2)Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod person yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb iddo gael ei gofrestru i wneud hynny o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gorfodi”) i'r person hwnnw.

(3)Ceir cyflwyno hysbysiad gorfodi i berson—

(a)drwy ei draddodi i'r person, neu

(b)drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(4)Mae hysbysiad gorfodi yn effeithiol am gyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad pan gyflwynir ef.

(5)Mae person (“P”) sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant yn groes i is-adran (1) yn cyflawni tramgwydd —

(a)os oes hysbysiad gorfodi yn effeithiol mewn perthynas â P, a

(b)os yw P yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb esgus rhesymol.

(6)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y is-adran (5) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.