Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Arolygu

13Arolygu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

(a)ar gyfer arolygu arfer swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan adrannau 7 i 12;

(b)ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—

(a)gan Weinidogion Cymru, neu

(b)gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wnaed gyda Gweinidogion Cymru.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.

(4)Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.

14Pwerau mynediad

(1)Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru, at ddibenion rheoliadau a wneir o dan adran 13, ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn—

(a)i unrhyw fangre sydd ym mherchenogaeth neu o dan reolaeth awdurdod lleol;

(b)i unrhyw fangre sy'n dod o fewn is-adran (3).

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn awdurdodi mynediad i mewn i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.

(3)Y mangreoedd y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) yw mangreoedd—

(a)a ddefnyddir, neu yr arfaethir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â gwasanaethau neu gyfleusterau a sicrhawyd gan awdurdod lleol;

(b)neu bod y person a awdurdodwyd o dan is-adran (1) yn rhesymol yn credu eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu yr arfaethir eu defnyddio felly.

(4)Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1)—

(a)ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;

(b)yn ddarostyngedig i amodau.

(5)Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan is-adran (1) neu adran 15, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.

15Pwerau arolygu

(1)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—

(a)arolygu'r fangre;

(b)arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion, cymryd copïau ohonynt neu eu symud oddi yno a hwythau'n ymwneud ag awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12;

(c)arolygu unrhyw eitem arall a'i symud o'r fangre;

(d)cyf-weld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gweithio yn y fangre.

(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion neu sy'n atebol amdanynt yn y fangre i'w dangos, a

(b)o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.

(3)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

(b)i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu eu symud oddi yno.

(4)O ran arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—

(a)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig neu ddeunyddiau ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a

(b)ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.

(5)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon —

(a)os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.

(6)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 14(4)(b)) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglŷn â materion sydd o dan reolaeth y person ag a fo'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 14 neu o dan yr adran hon.

(7)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro person rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14(1) neu o dan yr adran hon, neu

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

16Pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei rhoi

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (3) roi iddynt unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion (gan gynnwys cofnodion personol) neu eitemau eraill—

(a)sy'n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan adrannau 7 i 12, a

(b)y mae Gweinidogion Cymru—

(i)yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus eu cael at ddibenion unrhyw un neu unrhyw rai o'u swyddogaethau sy'n ymwneud ag awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12, neu

(ii)yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus i unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 14 i 15 eu cael at ddibenion y swyddogaethau hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru rannu unrhyw beth a gafwyd o dan is-adran (1) gydag unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 14 i 15.

(3)Dyma'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—

(a)awdurdod lleol;

(b)unrhyw berson y mae'r awdurdod wedi ymrwymo mewn trefniadau gydag ef—

(i)wrth iddo arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12, neu

(ii)ynglŷn ag unrhyw weithgaredd cysylltiedig.

(4)Mae'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, ddogfennau neu gofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol eu darparu mewn ffurf ddarllenadwy y gellir ei cymryd oddi yno.

(5)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i roi gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol.

(6)Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.