RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
PENNOD 3AROLYGU, CANLLAWIAU A CHYFARWYDDIADAU
Arolygu
13Arolygu
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—
a
ar gyfer arolygu arfer swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan adrannau 7 i 12;
b
ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
2
Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—
a
gan Weinidogion Cymru, neu
b
gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wnaed gyda Gweinidogion Cymru.
3
Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.
4
Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.
14Pwerau mynediad
1
Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru, at ddibenion rheoliadau a wneir o dan adran 13, ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn—
a
i unrhyw fangre sydd ym mherchenogaeth neu o dan reolaeth awdurdod lleol;
b
i unrhyw fangre sy'n dod o fewn is-adran (3).
2
Ond nid yw is-adran (1) yn awdurdodi mynediad i mewn i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.
3
Y mangreoedd y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) yw mangreoedd—
a
a ddefnyddir, neu yr arfaethir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â gwasanaethau neu gyfleusterau a sicrhawyd gan awdurdod lleol;
b
neu bod y person a awdurdodwyd o dan is-adran (1) yn rhesymol yn credu eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu yr arfaethir eu defnyddio felly.
4
Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1)—
a
ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;
b
yn ddarostyngedig i amodau.
5
Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan is-adran (1) neu adran 15, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.
15Pwerau arolygu
1
Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—
a
arolygu'r fangre;
b
arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion, cymryd copïau ohonynt neu eu symud oddi yno a hwythau'n ymwneud ag awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12;
c
arolygu unrhyw eitem arall a'i symud o'r fangre;
d
cyf-weld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gweithio yn y fangre.
2
Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—
a
pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion neu sy'n atebol amdanynt yn y fangre i'w dangos, a
b
o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.
3
Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
a
i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu
b
i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu eu symud oddi yno.
4
O ran arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—
a
cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig neu ddeunyddiau ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a
b
ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.
5
Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon —
a
os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu
b
os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.
6
Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 14(4)(b)) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglŷn â materion sydd o dan reolaeth y person ag a fo'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 14 neu o dan yr adran hon.
7
Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—
a
yn rhwystro person rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14(1) neu o dan yr adran hon, neu
b
yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,
yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
16Pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei rhoi
1
Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (3) roi iddynt unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion (gan gynnwys cofnodion personol) neu eitemau eraill—
a
sy'n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan adrannau 7 i 12, a
b
y mae Gweinidogion Cymru—
i
yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus eu cael at ddibenion unrhyw un neu unrhyw rai o'u swyddogaethau sy'n ymwneud ag awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12, neu
ii
yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus i unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 14 i 15 eu cael at ddibenion y swyddogaethau hynny.
2
Caiff Gweinidogion Cymru rannu unrhyw beth a gafwyd o dan is-adran (1) gydag unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 14 i 15.
3
Dyma'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—
a
awdurdod lleol;
b
unrhyw berson y mae'r awdurdod wedi ymrwymo mewn trefniadau gydag ef—
i
wrth iddo arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12, neu
ii
ynglŷn ag unrhyw weithgaredd cysylltiedig.
4
Mae'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, ddogfennau neu gofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol eu darparu mewn ffurf ddarllenadwy y gellir ei cymryd oddi yno.
5
Nid yw'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i roi gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol.
6
Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.